main logo

Rhwydweithio Cisco – Rhan 2 RSWE ac SRWE – Blwyddyn 2

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA99592
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 32 wythnos – Nos Iau – 18:00 – 21:00
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
11 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs yn y cwricwlwm CCNA Fersiwn 7.0 yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sylfaen cynhwysfawr ar gyfer dylunio, diogelu, gweithredu a datrys problemau ar rwydweithiau cyfrifiaduron modern, ar raddfa o rwydweithiau busnes bach i rwydweithiau menter. Bydd pwyslais ar ddysgu ymarferol a sgiliau hanfodol gyrfa fel datrys problemau a chydweithio.

Mae’r ail flwyddyn yn cynnwys dwy ran neu semester:

Rhan 1: Llwybro, Switsio a Hanfodion Di-wifr (SRWE) rhan 2, gyda rhan 1 yn cael ei chwblhau yn y flwyddyn gyntaf gyda Chyflwyniad Cisco i Rwydweithiau.

Rhan 2: Rhwydweithio Menter, Diogelwch ac Awtomeiddio (ENSA)

Mae’r dysgu yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o weithgareddau labordai ymarferol a gweithgareddau efelychu rhwydwaith Pecyn Olrhain Cisco. Mae’r fideos, gweithgareddau a’r cwisiau hyn yn atgyfnerthu dysgu.

Rhan 1 - SRWE: Switsio, Llwybro a Hanfodion Diwifr
Mae ail ran y cwricwlwm CCNA yn canolbwyntio ar dechnolegau switsio a gweithrediadau llwybryddion sy’n cynorthwyo rhwydweithiau busnes bach i ganolig ac yn cynnwys rhwydweithiau ardaloedd lleol diwifr (WLAN) a chysyniadau diogelwch.
Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd myfyrwyr yn dysgu cysyniadau allweddol switsio a llwybro. Gallant berfformio ffurfweddau sylfaenol rhwydweithiau a datrys problemau, adnabod a lleihau bygythiadau i ddiogelwch LAN, a ffurfweddu a diogelu WLAN sylfaenol.

Rhan 2 - Rhwydweithio Menter, Diogelwch ac Awtomeiddio (ENSA)
Mae’r trydydd cwrs yn y cwricwlwm CCNAv7 yn disgrifio’r strwythurau a’r ystyriaethau sy’n gysylltiedig â dylunio, diogelu, gweithredu a datrys problemau rhwydweithiau menter. Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â thechnolegau rhwydwaith ardal eang (WAN) a mecanweithiau ansawdd gwasanaeth (QoS) a ddefnyddir ar gyfer mynediad diogel o bell. Mae ENSA hefyd yn cyflwyno cysyniadau rhwydweithio, rhithwiroli ac awtomeiddio wedi'u diffinio gan feddalwedd sy'n cefnogi digideiddio rhwydweithiau. Mae myfyrwyr yn ennill sgiliau i ffurfweddu a datrys problemau rhwydweithiau menter, ac yn dysgu i adnabod ac amddiffyn rhag bygythiadau seiberddiogelwch. Byddant yn cael cyflwyniad i offer rheoli rhwydwaith ac yn dysgu am brif gysyniadau rhwydweithio a ddiffinnir gan feddalwedd, gan gynnwys strwythurau seiliedig ar reolwyr a sut mae rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau (API) yn galluogi awtomeiddio rhwydwaith.
Mae’r dosbarthiadau yn seiliedig ar y cwricwlwm ar-lein aml-gyfryngol a ddarperir gan Cisco, a gefnogir gan addysgu dan arweiniad tiwtor a sesiynau lab ymarferol. Asesir y ddau semester (ITN a SRWE) gan arholiad theori terfynol, trwy asesiad ar-lein.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond dyma gwrs lefel canolradd i uwch a byddai’n fuddiol i ymgeiswyr gael ychydig o wybodaeth a phrofiad gyda chyfrifiaduron a/neu galedwedd a meddalwedd.
Erbyn diwedd cyfres y cwrs CCNA, mae myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol a fydd yn eu paratoi ar gyfer arholiad ardystio CCNA a sgiliau yn barod am yrfa ar gyfer swyddi lefel cyswllt yn y diwydiant Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).
£399 neu am ddim os yn gymwys am gyllid PLA.
I fod yn gymwys, rhaid I chi fod yn hŷn na 19 oed, yn gyflogedig ac yn ennill o dan £30,596 y flwyddyn neu’n hunangyflogedig.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?