Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA99147 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Rhan Amser, Mae angen cyflawni 61 i 98 o gredydau ar gyfer y cymhwyster hwn. Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog I weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir I gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr I wneud hynny. |
Adran | Ceffyleg |
Dyddiad Dechrau | 30 Jul 2024 |
Dyddiad Gorffen | 30 Jul 2025 |
Trosolwg o’r Cwrs
Wrth gyflawni’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus bydd dysgwyr yn dangos eu bod yn bodloni safonau gofynnol y diwydiant i reoli iard yn llwyddiannus, neu ddod yn was stabl uwch neu'n was stabl/marchog llawrydd.
Bydd dysgwyr yn cael profiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith er mwyn datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth wrth baratoi ar gyfer asesiadau lefel 4. Mae'n rhaid iddynt fod yn gallu gweithio gydag amrywiaeth o geffylau er mwyn datblygu eu sgiliau gofal ceffylau, sgiliau arwain â thennyn hir a marchogaeth ac ennill rhagor o brofiad.
Bydd angen cwblhau llyfryn cofnod sgiliau cyn asesiad Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS). Dylai hyn gael ei gyflawni gan hyfforddwr achrededig o'r lefel gywir.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’I lunio ar gyfer dysgwyr sy’n fwy profiadol sy’n gweithio yn y diwydiant ceffyleg. Mae'n rhoi'r cyfle I ddatblygu sgiliau trwy amrywiaeth o unedau gan gynnwys: Defnyddio tac arbenigol, deall anghenion maeth ceffylau, rheoli ceffylau cystadlu, cynnal a hyrwyddo iechyd a llesiant corfforol ceffylau, gofalu am geffylau gan gynnwys cesgyn a stoc ifanc a cheffylau hŷn, gwella gofal cwsmeriaid, sgiliau rhyngbersonol, gofynion wrth baratoi ar gyfer hunangyflogaeth, swyddogaethau a chyfrifoldebau rheolwr iard, gofynion ariannol ar gyfer busnes ceffyleg, cadw cofnodion, marchnata, rheoli’r iard a'r porfeydd, arwain ceffylau cystadlu ar dennyn hir a dewisiadau marchogaeth mewn Campau Cymysg Marchogaeth traws gwlad, Dressage neu Neidio.
Wrth farchogaeth bydd angen I chi baratoi ar gyfer, marchogaeth ac asesu ceffylau er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w trin. Gan gynnwys:
Marchogaeth ac asesu ceffylau dibrofiad
Marchogaeth ac asesu ceffylau sydd wedi’u hyfforddi at lefel Elfennol er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w trin
Marchogaeth ac asesu ceffylau wedi’u hyfforddi ar gwrs neidio sy’n cynnwys neidiau hyd at 1.10 metr/3 troedfedd a 7 modfedd
Marchogaeth ac asesu ceffylau wedi’u hyfforddi ar gwrs traws gwlad hyd at 1 metr/3 troedfedd a 3 modfedd
Uned 4: Cam 4 - Marchogaeth Hŷn mewn Hyfforddi ar gyfer Campau Cymysg. Bydd hyn yn cynnwys marchogaeth ar bob cam o'r campau cymysg; dressage, neidio a thraws gwlad. Mae cyfleoedd ar gael I gwblhau llwybrau dressage neu neidio yn unig ar gyfer marchogwyr sy’n arbenigo mewn disgyblaeth benodol.

Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith wedi’i asesu yn y ganolfan BHSQ. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Bydd asesiadau yn cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol mewn paratoad ar gyfer cymryd rhan mewn adrannau asesu’r BHS.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, trafodaethau a diwrnod asesu BHSQ mewn canolfan gymeradwy.
Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Gwahoddir dysgwyr addas sy’n hŷn nag 18 oed i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl er mwyn sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Bydd angen aelodaeth aur BHS.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.
Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, gall dysgwyr symud ymlaen i’r cwrs Rheolwr Canolfan Berfformio a Marchogaeth BHS.

Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024