Diploma Lefel 2 BIIAB mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid - 601/3734/4

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA16418
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12 – 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Cynghori a Rhoi Arweiniad, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor ac Arweiniad
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid wedi'i gynllunio i alluogi dysgwyr i ennill ac yna arddangos y sgiliau a'r wybodaeth i weithio ar lefel weithredol yn y Gwasanaethau i Gwsmeriaid, gyda pheth ymreolaeth a pheth goruchwyliaeth.

Cael cydnabod eich gallu i greu profiad gwasanaethau i gwsmeriaid gwych gyda chymhwyster Gwasanaethau i Gwsmeriaid Lefel 2. Mae cael sgiliau gwasanaethau i gwsmeriaid gwych yn gallu eich helpu i gael dyrchafiad yn eich gyrfa, ni waeth pa faes rydych chi'n gweithio ynddo.
Mae'r cymwysterau Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn ddelfrydol i'r rhai hynny sy'n ymfalchïo eu bod yn gorfod ymdrin â phobl. Efallai eich bod yn dechrau neu'n ailymuno â chyflogaeth, neu'n gweithio mewn rôl darparu gwasanaeth cwsmeriaid mewn unrhyw ddiwydiant.

Byddwch yn ymdrin â meysydd fel:
Cyfathrebu, gan ddefnyddio iaith gwasanaethau i gwsmeriaid
Cyfathrebu gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Dilyn y rheolau i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid
Cynnal agwedd gadarnhaol a chlên gyda chwsmeriaid
Ymdrin â chwsmeriaid wyneb yn wyneb
Cyflawni eich gwaith gan fod yn glên gyda chwsmeriaid
Trefnu eich bod yn cyflawni gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid
Bydd y cymwysterau hyn yn gallu eich helpu i fod ar y blaen mewn bron unrhyw ddiwydiant, gan fod sgiliau da gwasanaethau i gwsmeriaid yn hanfodol mewn nifer fawr o swyddi.
Mae’n rhaid i chi fod yn gweithio mewn amgylchedd Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.

Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Bydd y cymwysterau hyn yn gallu eich helpu i ddod ymlaen mewn bron unrhyw ddiwydiant, gan fod sgiliau da i gwsmeriaid yn hanfodol mewn nifer fawr o swyddi.
Efallai y bydd y rhai sy’n awyddus i ddechrau gyrfa sy’n canolbwyntio ar wasanaethau i gwsmeriaid eisiau ennill y cymwysterau hyn fel rhan o Brentisiaeth. Mae Prentisiaeth mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn eich helpu i feithrin eich sgiliau tra byddwch yn ennill profiad gwaith gwerthfawr. Darganfyddwch ragor am y brentisiaeth.

Os ydych chi’n frwd dros hyrwyddo eich gyrfa trwy feithrin sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cadarn, efallai y byddwch yn dymuno symud ymlaen i ennill cymhwyster ychwanegol. Ar ôl cwblhau NVQ Lefel 2, gallwch fynd ymlaen i ennill:

Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Diploma Lefel 2 mewn Arwain Tîm
Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?