main logo

Diploma Lefel 2 FDQ am Hyfedredd mewn Cigyddiaeth a Phrosesu Cig (Cymru) - C00/4561/6

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16237
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Diploma yw’r cymhwyster hwn, lle bo angen cyflawni 37 credyd o leiaf.
Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Gweithgynhyrchu Bwyd
Dyddiad Dechrau
30 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gweithwyr yn y sector cigyddiaeth a phrosesu cig. Mae’r cymhwyster yn cynnwys ystod eang o unedau sy’n darparu dysgwyr gyda’r cyfle i ddangos gallu galwedigaethol mewn ystod o swyddi yn y sector gan gynnwys: Gweithiwr llociau/lladd-dy, gweithiwr prosesu cig a dofednod, gweithiwr cigyddiaeth, gweithiwr pecynnu a dosbarthu cig a dofednod, gweithiwr gwasanaethau/gwerthu cig a dofednod, gweithiwr sicrhau ansawdd cig.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith.

Bydd eich Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith Coleg Cambria yn ymweld â’r gweithle y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau cymhwysedd, gwybodaeth alwedigaethol a gwybodaeth greiddiol.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.

Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gwahoddir dysgwyr addas o bob oedran i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.

Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r brentisiaeth hon ar gael yn rhan o’r Fframwaith Prentisiaethau Cymru mewn Bwyd a Diod. Gall dysgwyr hefyd gyflawni’r cymhwyster hwn ar wahân i’r fframwaith prentisiaeth.

Gellir defnyddio’r cymhwyster hwn fel hwb i symud ymlaen i gymhwyster uwch megis:
Diploma Lefel 3 FDQ ar gyfer Hyfedredd mewn Cigyddiaeth, a Phrosesu Cig (Cymru).
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?