main logo

Diploma neu Dystysgrif Lefel 3 City & Guilds mewn Coginio Proffesiynol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA05523
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei ennill trwy gyflawni unedau. Mae ymgeiswyr yn cael ei hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i’w gwblhau yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd rhan fwyaf o ymgeiswyr wedi gorffen rhwng 12 a 18 mis.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol wedi’i lunio ar gyfer ben-cogyddion a chogyddion sy’n gweithio mewn swyddi goruchwyliol mewn ceginau ac sy’n cynhyrchu nifer fawr o brydau cymhleth. Bydd y cymhwyster yn cynorthwyo ymgeiswyr i ymgymryd â sgiliau a thechnegau uwch wrth gynhyrchu prydau cymhleth, gan alluogi iddynt ymgymryd â swyddi mewn ceginau boed yn gegin a phantri, neu’r adran grwst.

Mae’r cymhwyster hwn yn canolbwyntio yn benodol ar seigiau.

Bydd y pynciau y byddwch yn astudio yn cynnwys:
• Cyfrifoldebau cyfreithiol a chymdeithasol mewn cegin broffesiynol
• Rheolaeth ariannol mewn cegin broffesiynol
• Stoc, cawl a sawsiau
• Ffrwythau a llysiau
• Cig ac ofal
• Dofednod
• Pysgod a physgod cregyn
• Prydau a wnaed gyda phasta, nwdls, reis, polenta neu gnocchi
• Pwdinau
• Cynhyrchion past
• Bisgedi, cacennau a chacennau sbwng
• Cynnyrch toes wedi’i eplesu
• Cynhyrchion siocled
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol, ond mae rhaid iddynt fod o fewn amser penodol.
Gwahoddir dysgwyr addas o bob oedran i ymuno â’r cwrs unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae hi’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr. Yn ddelfrydol, bydd dysgwyr wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 sy’n gysylltiedig â chegin. Bydd rhaid cwblhau archwiliad sgiliau manwl i sicrhau bod yr ymgeiswyr a’u gweithle yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y cymhwyster.
Bydd pob ymgeisydd yn cael dadansoddiad trwyadl o anghenion hyfforddi i sicrhau bod pwnc a lefel y cwrs wedi’u dewis yn gywir.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.
Ar ôl i’r dysgwr gwblhau’r cymhwyster, gall symud ymlaen i’r cymwysterau canlynol, os yw eu swydd yn addas.
• Cuisine Proffesiynol Lefel 4
Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu employers@cambria.ac.uk i drafod os ydych yn gymwys am gymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?