City & Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA13326
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Tua 12 mis
Adran
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisiau gweithio mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cymhwyster hwn yn asesu gallu dysgwyr i gefnogi anghenion iechyd a gofal oedolion yn ymarferol mewn amryw o sefydliadau. Mae cynnwys y cymhwyster yn atgyfnerthu’r wybodaeth a ddysgwyd yn Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Craidd. Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Bydd y cymhwyster yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr trwy eu gwaith. Mae dysgwyr angen y cymhwyster hwn i weithio mewn swyddi penodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel y nodir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bydd cymhwyster ymarfer (Oedolion) yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarferion mewn sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol. Yn arbennig bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod nhw’n:

*deall ac yn gweithredu’r egwyddorion a’r gwerthoedd yn ymarferol sy’n tanseilio arferion iechyd a gofal cymdeithasol
*deall a chymhwyso ymagweddau sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn ymarferol
*gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol trwy ymarfer eu hunain
*adlewyrchu ar ymarfer i wella dealltwriaeth yn barhaus o swyddi a ffyrdd o weithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
*defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol yn eu rôl.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer:
*dysgwyr 16 oed a hŷn sy’n gweithio mewn rôl gefnogol i oedolion yn y sector gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
*dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Craidd.
*dysgwyr sydd eisoes wedi’u cyflogi yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol
*dysgwyr sy’n dychwelyd i’r gweithlu ar ôl seibiant gyrfa ac sydd am adnewyddu eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Mae’n cael ei argymell yn fawr i ddysgwyr gwblhau’r cymhwyster craidd cyn dechrau’r cymhwyster hwn neu ei gwblhau ar y cyd â Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) gan ei fod yn ofyniad i ymarfer gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn nodwedd o’r Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu trwy weithio mewn partneriaeth agos rhwng y dysgwr, rheolwr a’r aseswr.

Y prif ddulliau asesu ar gyfer y cymhwyster hwn yw cyfres o dasgau strwythuredig wedi’u cynllunio sy’n cynnwys:

*cofnod adfyfyriol
*portffolio o dystiolaeth i gynnwys dogfennau’r gweithle
*ffurflenni cynllunio
*cofnodion arsylwi arferion gwaith
*cofnodion adolygu gweithgaredd
*trafodaeth dan arweiniad yr aseswr
Mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen ar y cymhwyster Consortiwm* canlynol:
*Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
*Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

Ond er mwyn symud ymlaen i gymwysterau Ymarfer bydd y prentis angen bod mewn swydd addas i ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd ar gyfer y cymwysterau hyn, dydi symud ymlaen i gymwysterau ddim yn cael ei wneud yn awtomatig.
Am gostau cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?