main logo

City & Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA14346
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Hyd at 24 mis
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
30 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio ar gyfer staff gofal plant profiadol sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa drwy ddatblygu eu sgiliau arwain. Mae'r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn seiliedig ar wybodaeth, gan ganiatáu i ddysgwyr gwblhau'r cwrs cyn mynd ati i ymgymryd â rôl arweinydd.

Mae'r cymhwyster yn cynnwys tair uned orfodol: Arwain ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn, Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli, a Deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol. Drwy gwblhau'r unedau hyn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ennill cyfanswm o 60 credyd.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i unigolion sy’n frwd dros weithio gyda phlant ac sy'n awyddus i symud ymlaen i swyddi arwain yn y sector gofal plant. Mae'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr i arwain a rheoli timau mewn lleoliad gofal plant yn effeithiol.

Ar y cyfan, mae'r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn gyfle gwych i staff gofal plant profiadol wella eu potensial fel arweinwyr a chymryd y cam nesaf yn eu gyrfa.
Mae’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cael ei werthuso trwy gyfuniad o ddulliau asesu mewnol ac allanol, yn dilyn cyfres o sesiynau a addysgir ar un o’n safleoedd. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth ym maes gofal plant ac addysg.

Ar gyfer yr asesiad allanol, mae’r dysgwyr yn cael y dasg o gwblhau prosiect sy’n cynnwys cyfres o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar newid arfaethedig i arferion cyfredol yn y lleoliad gofal plant. Mae’r prosiect hwn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu dealltwriaeth o gysyniadau allweddol a’u gallu i’w cymhwyso mewn cyd-destun ymarferol.

Yn ogystal, mae tasgau asesu mewnol yn cynnwys cymysgedd o ymatebion llafar ac ysgrifenedig. Mae’r tasgau hyn wedi’u cynllunio i brofi sgiliau cyfathrebu dysgwyr, galluoedd meddwl yn feirniadol, a gwybodaeth am ddamcaniaethau ac arferion perthnasol mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Ar y cyfan, mae’r cwrs hwn yn darparu asesiad cynhwysfawr a thrylwyr o barodrwydd dysgwyr ar gyfer rolau arwain a rheoli yn y sector gofal plant. Drwy gwblhau asesiadau mewnol ac allanol yn llwyddiannus, gall dysgwyr ddangos eu cymhwysedd a’u parodrwydd i ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau yn y maes.
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac ar gyfer staff profiadol sy’n dymuno datblygu eu potensial fel arweinwyr er mwyn symud ymlaen i rôl arwain a rheoli yn y sector Gofal Plant.

Gan ei bod yn seiliedig ar wybodaeth, gall dysgwyr gwblhau’r cymhwyster hwn cyn iddynt gael rôl fel arweinydd.

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant i ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer), QCF Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant neu’r cymhwyster Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Mae’r cwrs Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant wedi’i gynllunio i ddarparu unigolion â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â rolau arwain yn y maes. Mae’r cymhwyster hwn yn gam cyntaf tuag at ddod yn arweinydd llwyddiannus yn y sector hwn.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gall unigolion symud ymlaen i’r Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gydag Arbenigedd ac yn y pen draw i Lefel 5 Arwain a Rheoli mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer, ar yr amod eu bod mewn swydd addas.
Am gostau cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?