main logo

City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (Tirweddu)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA06321
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.

Bydd yr amser y mae’n ei gymryd I gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12 – 24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr I wneud hynny.
Adran
Garddwriaeth a Thirlunio
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs yn galluogi’r dysgwr i ddysgu, meithrin ac ymarfer i sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu symud ymlaen mewn gyrfa yn y sector garddwriaeth. Mae’r cymhwyster hwn wedi'i ddylunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno datblygu sgiliau a gwybodaeth reoli goruchwylio uwch mewn ystod eang o sgiliau garddwriaethol i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:

● Technegydd Garddwriaeth
● Darlithydd Garddwriaeth
● Arweinydd tîm - garddwr tirwedd galed
● Arweinydd tîm - garddwr tirwedd feddal
● Arbenigwr adeiladu palmentu a llwybrau

Gallwch symud ymlaen drwy'r gwahanol lefelau ac I brentisiaethau perthnasol.

Mae'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy'n cyflawni tasgau arferol yn y gweithle, a gallent ddefnyddio'r cymhwyster hwn fel cam at gymwysterau uwch o'r math hwn.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys sgiliau o ystod eang o feysydd gan gynnwys yr unedau hanfodol Hybu, monitro a chynnal iechyd, diogelwch a diogeled yn y gweithle, Amcangyfrif a rhaglennu gofynion adnoddau, Rheoli eich adnoddau eich hun, Nodi cynnal a chadw tirweddau, Monitro cynnal a chadw tirwedd ac archwilio nodweddion a chyfleusterau tirwedd.

Gallai’r unedau dewisol gynnwys dewis o rai o'r unedau canlynol: Cynnal a chadw systemau draenio, Dull enwi planhigion, terminoleg ac adnabod, gosod systemau draenio, Gwerthuso amodau tir ac amgylcheddol I sefydlu ardaloedd glaswellt a phlanedig, Paratoi safleoedd ar gyfer sefydlu tirwedd feddal, Sefydlu ardaloedd wedi’u plannu, Sefydlu glaswellt, Cynnal a chadw systemau dyfrhau, Cynllunio a chynnal ardaloedd wedi’u plannu, Cynllunio ac adnewyddu ardaloedd wedi’u plannu, Paratoi safleoedd ar gyfer gwaith tirlunio, Dylunio a gosod systemau dyfrhau, Gosod arwynebau caled ar gyfer tirlunio allanol, Adeiladu waliau rhydd-sefyll, Gosod nodweddion a strwythurau tirwedd galed, Cynllunio a chreu addurniadau dŵr, adeiladu gerddi cerrig, Trwsio ac adnewyddu waliau, Adnewyddu ardaloedd tirwedd feddal, Cynllunio a chasglu deunydd lledaenu, Paratoi a sefydlu deunydd lledaenu, Cynllunio a gweithredu lledaenu hadau, Trefnu cyflwyno gwasanaethau I gwsmeriaid dibynadwy, Gwella’r berthynas cwsmeriaid, Rheoli amser ar gyfer y busnes, Arwain y timau gwaith ac unigolion I fodloni eu hamcanion, Gwella gwasanaethau I gwsmeriaid, Gweithredu cynllun marchnata, Rheoli cyllidebau.


Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol I fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Diploma yw’r cymhwyster hwn, lle bo angen cyflawni 5 credyd o leiaf o’r unedau gorfodol ac o leiaf 30 credyd o’r unedau dewisol.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystion.

Mae credydau o ddysgu blaenorol hefyd yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster yn gam cyntaf mewn Fframwaith Brentisiaeth, ond gellir ei ddefnyddio fel hwb i symud ymlaen i gymhwyster uwch o’r math hwn.

● Tystysgrif Lefel 4 mewn Garddwriaeth
● Diploma Lefel 4 mewn Garddwriaeth
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?