Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
City & Guilds Lefel 3 Diploma mewn Coed a Phren Seiliedig ar Waith (Coedyddiaeth)
Rhestr Fer
Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA14069 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Rhan Amser, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond rydym yn disgwyl y bydd ymgeiswyr angen tua 18 mis. |
Adran | Coedwigaeth a Chefn Gwlad |
Dyddiad Dechrau | 30 Jul 2024 |
Dyddiad Gorffen | 30 Jul 2025 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n gweithio yn y diwydiant coed a phren, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, sydd wedi nodi bod angen ategu eu hyfforddiant a’u profiad a darparu tystiolaeth o’u cymhwysedd sydd ei angen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector coedyddiaeth. Mae'r lefel 3 yn adeiladu'n benodol ar y sgiliau a gafodd eu meithrin yn asesiadau lefel 2 ac asesiadau NPTC cysylltiedig ac yn cyflwyno cyfrifoldebau rheoli sy'n ymwneud â gwaith coed a choedwigaeth.
Mae llwybrau'n cynnwys sefydlu coedwigaeth, cynnal a chadw a chynaeafu, masnachau coed gwyrdd, a choedyddiaeth.
Nod y cwrs yw rhoi cyfle i ddysgwyr ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth mewn coedyddiaeth a diwydiannau cysylltiedig, a’u galluogi i symud ymlaen i astudiaeth uwch. Yn ogystal â darparu amgylchedd dysgu ysgogol a chefnogol i ddysgwyr ddatblygu eu cyfraniad posibl at goedyddiaeth a diwydiannau cysylltiedig. A datblygu gwybodaeth greiddiol yn y maes pwnc, trwy hyrwyddo ac annog datblygiad technegau a gweithgareddau dysgu newydd
Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol.
Rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 38 credyd.
Bydd hyn yn cynnwys 21 credyd o'r unedau gorfodol i'w cynnwys mewn meysydd fel, ond heb fod yn gyfyngedig i:
● Arolygu ac archwilio cyflwr coed
● Tocio coeden o'r awyr
● Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith tîm
● Hyrwyddo iechyd a diogelwch yn y gweithle
● Datblygu cynlluniau rheoli
Ynghyd ag o leiaf 17 credyd o unedau dewisol mewn meysydd fel, ond heb fod yn gyfyngedig i:
● Torri a phrosesu coed dros 380mm
● Cynllunio a chyflawni amddiffyniad planhigion trwy ddulliau cemegol
● Torri coed sydd wedi'u dadwreiddio neu wedi'u chwythu gan y gwynt gan ddefnyddio llif gadwyn
● Cynnal arolygon safle a chyfleu canfyddiadau
● Cynnal gweithrediadau cwympo â chymorth
● Cynllunio a rheoli gwaith rheoli plâu, afiechydon ac anhwylderau
● Ysgrifennu cynllun busnes
● Torri coed o'r awyr gyda llif gadwyn gan ddefnyddio technegau cwympo'n rhydd

Cewch eich asesu trwy gyfres o weithgareddau ac aseiniadau. Bydd y rhain yn cael eu hasesu’n fewnol a’u safoni yn fewnol ac yn allanol.
Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol hefyd, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol hefyd, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Rhaid i ddysgwyr fod o leiaf 16 oed.
Caiff dysgwyr addas eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gyflogedig ar hyn o bryd yn y maes dysgu hwn ac yn cael eich cefnogi’n llawn gan eich cyflogwr. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol yn y maes hwn i ddechrau.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.

Gall y cymwysterau hyn eich helpu i symud ymlaen mewn swyddi fel:
● Gweithiwr coedwig
● Swyddog coedwig
● Tyfwr coed
● Gweithiwr coedwig
● Swyddog coedwig
● Tyfwr coed
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Cynnal a Chadw Llif Gadwyn, Trawstorri a Thorri Coed hyd at 380mm a'u prosesu
award
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
PA6 Chwistrellu o Becyn Cefn
short course
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
City & Guilds Lefel 3 Diploma mewn Coed a Phren Seiliedig ar Waith (Crefftau prysgoedio a choed gwyrdd)
diploma