main logo

City & Guilds Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Lletygarwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA11825
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau, ac maen nhw’n cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.
Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12 – 24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
30 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Lletygarwch ar gyfer yr ymgeisydd sy’n gweithio neu sydd eisiau gweithio fel rheolwr lletygarwch, pennaeth adran, rheolwr cegin, prif gogydd, cogydd gweithredol, rheolwr blaen swyddfa, rheolwr blaen tŷ, rheolwr derbynfa, rheolwr llety, rheolwr cadw tŷ, swyddog cadw tŷ gweithredol, rheolwr bwyd a diod, rheolwr bwyty, rheolwr bar yn y sector lletygarwch ac arlwyo.

Mae’n galluogi ymgeiswyr i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector lletygarwch ac arlwyo.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.
Mae rhan fawr o’r cymhwyster hwn yn cael ei chyflwyno trwy sesiynau sy’n cael eu haddysgu ar safle Glannau Dyfrdwy a thrwy gwblhau aseiniadau, yn ogystal â mynd i gyrsiau a gweithdai.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ac wedi ennill cymhwyster lefel 3 mewn maes pwnc priodol yn ogystal ag un flwyddyn o brofiad yn y diwydiant.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Cyfleoedd gyrfa a dilyniant i’w drafod mewn cyfarfod un i un gyda’ch asesydd.
Gall dysgwyr sy’n cyflawni diploma lefel 4 symud ymlaen at radd Sylfaen mewn pwnc cysylltiedig.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?