Diploma neu Dystysgrif Lefel 2 City & Guilds mewn Derbynfa Blaen Tŷ

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma neu'r Dystysgrif Lefel 2 mewn Derbynfa Blaen Tŷ ar gyfer ymgeiswyr sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant lletygarwch ac sydd eisoes â gwybodaeth am egwyddorion sylfaenol y gwaith sy’n berthnasol i adran gwasanaethau derbynfa, neu a all ddangos ymrwymiad a brwdfrydedd i weithio ac astudio er mwyn ategu eu gwybodaeth bresennol. Byddant yn dymuno symud ymlaen fel derbynnydd cymwys.
Mae angen i ymgeiswyr fynd i’r afael ag asesiadau ymarferol a’u cwblhau ac arddangos gwybodaeth trwy asesiad.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys sgiliau derbynfa, diogelwch yn y gwaith, gwasanaethau i gwsmeriaid yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo, trefnu llety ar gyfer gwesteion, trin arian parod a chyfrifon gwesteion, gwasanaethau cyrraedd a gadael, hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau i westeion.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gwahoddir dysgwyr addas o bob oedran i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr symud ymlaen at y cymwysterau dilynol os yw eu swydd yn addas.
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 City & Guilds mewn Gwasanaethau Lletygarwch
Diploma Lefel 3 mewn Lletygarwch a Goruchwylio
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?