Diploma NVQ Lefel 5 ILM mewn Rheoli ac Arwain

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA01391
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Oddeutu 18 Mis
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster yn rhoi cyfle i ddysgwyr weithio a dysgu ar yr un pryd. Mae'n addas ar gyfer y rheini sydd mewn swyddi rheoli uwch ac sy’n cyfrannu at ddatblygu strategaeth sefydliad.
Gallent fod yn gyfrifol hefyd am ddylunio prosesau busnes, rheoli'r cydweithrediad â sefydliadau eraill a datblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd.

Unedau Gorfodol:
500 Cyfrannu at Ddatblygu Cynllun Strategol
501 Dylunio Prosesau Busnes
502 Rheoli Newidiadau Strategol
400 Darparu Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Unedau Dewisol
503 Sefydlu Prosesai Rheoli Risg Busnes
504 Hyrwyddo Cyfle Cyfartal, Amrywiaeth a Chynhwysiant
505 Datblygu a Rheoli Perthnasoedd Cydweithredol gyda Sefydliadau Eraill
402 Datblygu Perthnasoedd Gwaith gyda Rhanddeiliaid
413 Rheoli Prosiect
416 Arferion Recriwtio, Dethol ac Ymsefydlu

Mae'r unedau dewisol a ddangosir yn sampl fechan o unedau sydd ar gael
Bod yn gweithio mewn swydd briodol er mwyn gallu casglu tystiolaeth
Cefnogaeth gan eich cyflogwr ar gyfer ymweliad asesydd â’r gweithle
Bydd dysgwyr yn cael asesydd a fydd yn ymweld unwaith y mis i dywys y dysgwr i i lunio portffolio o dystiolaeth o’u gwybodaeth a’u cymhwysedd. Bydd tystiolaeth yn cael ei hennill drwy arsylwi’r dysgwr yn uniongyrchol, gan ddarparu dogfennaeth y mae’r dysgwr yn ei chwblhau neu sy’n ymwneud â nhw, cydweithwyr a rhanddeiliaid yn darparu tystiolaethau tystion i gadarnhau bod y dysgwr wedi cyflawni tasgau, trafodaethau rhwng y dysgwr a’r asesydd am dasgau a gwblhawyd a datganiadau ysgrifenedig neu drafodaethau wedi’u recordio i gwmpasu’r wybodaeth ym mhob uned.
Gan fod y cymhwyster hwn ar gyfer y rheini sydd mewn swyddi rheoli uwch, bydd yn cadarnhau bod y dysgwr yn gymwys yn y swydd hon ac fe allai gyflwyno cyfleoedd i symud ymlaen i lefelau uwch o reolaeth.
£1,500.00 am yr NVQ ar ei ben ei hun.

Fodd bynnag, os caiff ei wneud fel rhan o fframwaith prentisiaethau, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyn yn amodol ar rai gofynion cymhwysedd.

Am ragor o fanylion cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?