City & Guilds Diploma NVQ Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA05012
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 18 mis

Adran
Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor ac Arweiniad
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sy’n gweithio â chleientiaid mewn sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cynghori a rhoi arweiniad, yn broffesiynol neu’n wirfoddol.

Maent ar gyfer unrhyw un 18 oed neu’n hŷn (Lefel 4) sy'n darparu cyngor ac arweiniad mewn gwaith proffesiynol neu wirfoddol. Gallech chi fod yn gweithio mewn cyfarwyddyd gyrfaoedd, ar gyfer undeb llafur, mewn ysgol, ym maes tai lleol, adnoddau dynol, gwasanaethau trydydd sector, gwasanaethau cyhoeddus neu mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r lefel hon yn ddelfrydol os ydy eich swydd yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i gleientiaid, bod yn atebol i uwch reolwyr a rhwydweithio â gwasanaethau cysylltiedig.

I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gyflawni ystod o unedau gorfodol a dewisol, gan gynnwys:

* Datblygu, gweithredu, monitro ac adolygu cynlluniau gweithredol ar gyfer eich maes cyfrifoldeb eich hun
* Rhwydweithio gyda gwasanaethau eraill
* Rheoli Llwyth Achosion Personol
* Arwain a Rheoli Cyfarfodydd
* Cefnogi cleientiaid i ddefnyddio’r gwasanaeth cynghori a rhoi arweiniad
* Paratoi a gosod camau gweithredu ar gyfer cleientiaid
* Adolygu cynnydd cleientiaid
* Ymdrin â sefyllfaoedd brys
* Deall deddfwriaeth i gadw ati
* PREVENT - 4 modiwl i’w cwblhau ar-lein gan gynnwys Gwerthoedd Prydeinig, Cadw’n
ddiogel ar-lein, yr hyn y gallwch chi ymddiried ynddo a radicaleiddio ac eithafiaeth.

Gallwch chi ddewis y cymhwyster sy'n arddangos y wybodaeth a sgiliau arbenigol rydych chi wedi'u datblygu, fel:

Darparu a chynnal deunyddiau gwybodaeth
Trafod ar ran Cleientiaid Cyngor ac Arweiniad
Darparu cymorth ar gyfer ymarferwyr eraill
Deall sut i gefnogi grwpiau cleientiaid penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu, hyfforddi a gweithio
Rhaid eich bod chi’n gweithio mewn amgylchedd sy’n gweithio gyda chleientiaid. Mae eich swydd yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i gleientiaid, bod yn atebol i uwch reolwyr a rhwydweithio â gwasanaethau cysylltiedig, a rheoli, trafod, hyfforddi, gwerthuso a datblygu’r ddarpariaeth gwasanaeth

Sesiwn ymsefydlu 1 x 2 awr i gynnwys Holiadur Cyn y Cwrs, cofrestru a sgrinio ar gyfer lefelau Saesneg, mathemateg a llythrennedd digidol.
Asesiadau uned – Mae gan bob uned rhwng 8 awr a 15 awr o amser dysgu dan arweiniad. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno yn y gweithle. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno yn y gweithle.
Bydd y cymorth hwn ar gael yn strwythuredig yn eich gweithle, ac yn hyblyg yn y coleg.
Bydd cymorth asesydd ar gael dros y ffôn neu drwy e-bost hefyd.
Mae Sgiliau Hanfodol yn ofynnol gyda rhai opsiynau ariannu
Bydd tystiolaeth o’ch cwrs yn cael ei storio ar system e-bortffolio o’r enw Smart Assessor.

Gall y cymwysterau hyn eich helpu chi i wneud cynnydd mewn amrywiaeth eang o swyddi cyngor ac arweiniad, gan gynnwys:

* Ymgynghorydd
* Goruchwyliwr/Rheolwr
* Ymgynghorydd Cysylltiadau Busnes
* Aelod o staff y Ganolfan Cyngor ar Bopeth
* Darparwr cyngor mewn sefydliadau addysgol
* Darparwr cwnsela
* Personél hyfforddiant ac adnoddau dynol
* Ymgynghorydd cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
* Swyddog Tai


Darganfyddwch ragor am y brentisiaeth.
Os ydych chi’n frwd dros hyrwyddo eich gyrfa efallai y byddwch chi’n dymuno symud ymlaen i ennill cymhwyster ychwanegol.

Ar ôl cwblhau cymhwyster Lefel 4, gallwch chi symud ymlaen i ennill:
Diploma Lefel 4 mewn Rheoli
Lefel 3/4/5 mewn Annog a Mentora
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ariannu ar gael, siaradwch â’n tîm am ragor o wybodaeth
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?