City & Guilds Diploma NVQ Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA03364
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei ennill trwy gyflawni unedau. Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.

Bydd yr amser a gymerir i’w gwblhau yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd rhan fwyaf o ymgeiswyr wedi gorffen rhwng 12 a 18 mis.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch wedi ei ddylunio i ymgeiswyr sy’n gweithio mewn swyddi goruchwylio ac arwain yn y diwydiant lletygarwch, yn ogystal â rhoi’r elfen wybodaeth ar gyfer y fframwaith prentisiaethau uwch Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch.

Mae’n cynnwys cyfansoddiad y diwydiant lletygarwch, cyfathrebu yn y diwydiant lletygarwch, arwain tîm, goruchwylio gwasanaethau i gwsmeriaid, rheoli stoc a defnyddio adnoddau yn effeithiol.

Bydd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer swydd goruchwylio ac arwain yn y diwydiant Lletygarwch.

Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod wedi eich cyflogi yn maes dysgu hwn ac yn cael cymorth lawn eich cyflogwr. Yn ddelfrydol rhaid i ddysgwyr fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 sy’n berthnasol i’r diwydiant Lletygarwch.

Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.

Dysgu o bell agored ac asesu yn y gwaith. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’r gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel.

Bydd asesiadau yn cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol.
Mae cymorth ar gael ar-lein trwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Mae dysgu’n digwydd ar ffurf cyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, a chwestiynau ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae achrediad o ddysgu blaenorol hefyd yn cael ei ystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Fel rhan o’r fframwaith rhaid cwblhau tystysgrif technegol gyda 2 ran iddo. Mae rhan 1 yn arholiad ysgrifenedig sy’n seiliedig ar senario a disgwylir ateb byr. Mae rhan 2 yn arholiad gyda 60 cwestiwn aml-ddewis.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.
Ar ôl i’r dysgwr gwblhau’r cymhwyster, gall symud ymlaen i’r cymwysterau canlynol os yw eu swydd yn addas.

• Rheoli Lletygarwch Lefel 4
Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu employers@cambria.ac.uk i drafod os ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?