Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
City & Guilds Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Bwyd a Diod
Rhestr Fer
Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA03339 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Rhan Amser, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau ac maen nhw’n cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12 – 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny. |
Adran | Lletygarwch ac Arlwyo |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r Diploma neu Dystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaethau Bwyd a Diod ar gyfer ymgeiswyr sy’n dymuno gweithio yn y diwydiant lletygarwch ac sydd eisoes â gwybodaeth am egwyddorion sylfaenol gweithio mewn bwyty neu far, neu sy’n gallu dangos ymrwymiad a brwdfrydedd i weithio ac astudio er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth bresennol.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth gysylltiedig er mwyn cwblhau’r asesiadau.
Mae'r cymhwyster yn cynnwys diogelwch bwyd a diogelwch yn y gwaith, gwybodaeth a dylunio bwydlenni, gwasanaethau i gwsmeriaid a thrin taliadau, a gwasanaeth bwyd a diod a gwybodaeth am gynnyrch.

Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Bydd credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr symud ymlaen i’r cymwysterau hyn os ydy eu swydd yn addas.
* Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 City and Guilds mewn Gwasanaethau Lletygarwch
* Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 BIIAB mewn Gweithrediadau Lletygarwch Trwyddedig
* Diploma Lefel 3 mewn Lletygarwch a Goruchwylio

Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Lletygarwch ac Arlwyo
Diploma neu Dystysgrif Lefel 2 City & Guilds mewn Derbynfa Blaen Tŷ
diploma
Lletygarwch ac Arlwyo
City & Guilds Diploma NVQ Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch
diploma
Lletygarwch ac Arlwyo
Diploma Lefel 3 C&G mewn Goruchwylio Bwyd a Diod ac Egwyddorion Arwain
diploma