City & Guilds Diploma NVQ Lefel 2 mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA03343
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.

Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 12 – 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma neu'r Dystysgrif Lefel 2 Cynhyrchu Bwyd a Choginio ar gyfer ymgeiswyr sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant lletygarwch ac sydd eisoes â gwybodaeth am egwyddorion sylfaenol gwaith cegin, neu a all ddangos ymrwymiad a brwdfrydedd i weithio ac astudio er mwyn ategu eu gwybodaeth bresennol.

Bydd angen i ymgeiswyr arddangos y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth gysylltiedig er mwyn cwblhau’r asesiadau.

Mae'r cymhwyster yn cynnwys diogelwch yn y gwaith ac wrth baratoi bwyd, bwyta'n iach a dietau arbennig, costio a chynllunio bwydlenni a pharatoi, coginio a gorffen ystod eang o fwyd a seigiau.
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.

Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel.
Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Bydd credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.
Ar ôl i’r dysgwr gwblhau’r cymhwyster, gall symud ymlaen i’r cymwysterau canlynol os yw eu swydd yn addas.

• Diploma neu Dystysgrif Lefel 2 City & Guilds mewn Gwasanaethau Lletygarwch
• Diploma neu Dystysgrif Lefel 2 City & Guilds mewn Gwasanaethau Cegin
• Diploma neu Dystysgrif Lefel 2 City & Guilds mewn Coginio Proffesiynol
• Diploma Lefel 3 mewn Lletygarwch a Goruchwylio

Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol
Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu employers@cambria.ac.uk i drafod os ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?