City & Guilds Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cegin

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA01479
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.
Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12 – 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma neu Dystysgrif Lefel 2 NVQ mewn Gwasanaethau Cegin (QCF) wedi’i lunio i ddysgwyr sydd wedi’u cyflogi mewn swyddi arlwyo fel cymhorthydd cegin, cogydd cyffredinol neu mewn ysgol, aelod o dîm neu chef, sydd angen datblygu neu gadarnhau eu sgiliau. Dyma gymhwyster yn y gwaith a fydd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer gweithio mewn amgylchedd arlwyo, fel cynhyrchu bwyd a choginio, a gweithio gydag eraill a gwella eu perfformiad eu hunain.

Mae'r cymhwyster yn cynnwys diogelwch yn y gwaith ac wrth baratoi bwyd, bwyta'n iach a dietau arbennig, costio a chynllunio bwydlenni a pharatoi, coginio a gorffen ystod eang o fwyd a seigiau.
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.

Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr symud ymlaen at y cymwysterau dilynol os yw eu swydd yn addas.

*Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 City & Guilds mewn Gwasanaethau Lletygarwch
*Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 City & Guilds mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio
*Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 City & Guilds mewn Coginio Proffesiynol
*Diploma Lefel 3 mewn Lletygarwch a Goruchwylio
*Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol

Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?