City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA03240
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Enillir y cymhwyster trwy unedau ac anogir ymgeiswyr i weithio ar eu cyflymder eu hunain gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau yn dibynnu ar lawer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen rhwng 18 a 24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr.

Adran
Garddwriaeth a Thirlunio, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi’r dysgwr i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector garddwriaeth trwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol uchel a gwybodaeth dda am y pwnc mewn ystod o sgiliau garddwriaethol sy’n briodol i allu galwedigaethol mewn ystod eang o swyddi garddwriaethol gan gynnwys:
* Tirmon
* Gweithiwr parciau new strydlun
* Garddwr
* Tirlunydd
* Gweithiwr cynhyrchu
* Gweithiwr mewn Canolfan Arddio
Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n ymgymryd â thasgau arferol yn y gweithle ac a allai ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel carreg gamu i lefelau uwch ac ymlaen i brentisiaethau a llwybrau gyrfa perthnasol.
Mae'r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth megis Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a Pherthnasoedd Gwaith Effeithiol.

Mae sgiliau galwedigaethol o fewn y cymhwyster yn cynnwys:-
* Defnyddio a chynnal a chadw amrywiaeth o offer heb ei bweru ac offer llaw wedi’i bweru, offer wedi'i bweru gan gerddwyr, peiriannau malu a / neu beiriannau rhwygo ac offer pŵer eistedd arnynt
* Cynnal a chadw planhigion a mannau glaswelltog gan gynnwys tocio a thrimio, rheoli llystyfiant diangen, adnabod a rheoli plâu, afiechydon ac anhwylderau.
* Adeiladu a chynnal amrywiaeth o nodweddion tirweddau caled megis nodweddion dŵr, ardaloedd a strwythurau palmantog
* Tyfu, cynaeafu a chludo cnydau
* Tyfu planhigion
Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer y tasgau, dangos arfer gweithio diogel drwy gydol y broses a gweithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod trwy leihau difrod a rheoli gwastraff.
Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy'n gofyn i'r dysgwr ddangos dealltwriaeth o'r pwnc y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen i gyflawni’r gwaith.
Bydd y dysgwyr yn dewis unedau cyfun i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Mae'r cymhwyster hwn yn Ddiploma sy'n galw am gyflawni 37 credyd; 20 o'r unedau gorfodol ac 17 arall o'r unedau dewisol a ddewiswyd

Gwahoddir dysgwyr addas 16+ oed i ymuno unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gyflogedig yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd ac yn cael eich cefnogi’n llawn gan eich cyflogwr.
Bydd pob ymgeisydd yn ymgymryd â dadansoddiad trylwyr o anghenion hyfforddi i sicrhau bod y cwrs a’r lefelau cywir yn cael eu dewis.
Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’r gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Ceir tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth trwy ystod o ddulliau y cytunir arnynt rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.
Mae cymorth ar-lein ar gael trwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Mae dysgu ar ffurf cymysgedd o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynau ysgrifenedig a llafar, taflenni swydd, ffotograffau, datganiadau fideo a datganiadau tystion.
Mae achrediad o ddysgu blaenorol yn cael ei ystyried hefyd, ond mae cyfyngiad amser ar hyn.

Mae’r cymhwyster yn rhan o Fframwaith Prentisiaeth neu’n gymhwyster annibynnol. Gellir ei ddefnyddio fel carreg gamu i lefel uwch megis dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes cysylltiedig yn amodol ar fod mewn sefyllfa i gynnwys rhywfaint o reolaeth yn y swydd.
Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?