main logo

City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol yn Seiliedig ar Waith

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA10457
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 12 – 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir, Garddwriaeth a Thirlunio, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
30 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddylunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno datblygu sgiliau a gwybodaeth mewn ystod eang o sgiliau amgylcheddol a chadwraeth i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:
● Ceidwad neu weithredwr ym maes rheoli parciau trefol neu o gwmpas trefi.
● Gweithiwr mewn gwarchodfeydd natur a chynefinoedd gwarchodedig
● Unigolyn sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr ar gyfer sefydliadau yn y sector.
● Aelod o dîm ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sefydliadau elusennol tebyg a chyrff cyhoeddus wedi’u hariannu
● Gweithio'n weithredol i gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau i'r sector

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud tasgau arferol yn y gweithle ac fe allent ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam agosach at lefelau gwahanol uwch ac at brentisiaethau perthnasol a llwybrau gyrfa.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasau gwaith effeithiol ynghyd â hyrwyddo arfer amgylcheddol da a chyfathrebu gyda’r cyhoedd ac eraill.

Mae sgiliau galwedigaethol yn y cymhwyster yn cynnwys:-
● Gweithio ar weithrediadau rheoli cynefinoedd fel sefydlu a chynnal cynefinoedd (e.e. coetiroedd, glaswelltir, ucheldir, arfordirol)
● Adeiladu a chynnal a chadw nodweddion a gosodiadau yng nghefn gwlad neu ar lwybrau mynediad,
● Cynnal holiaduron ar gyfer planhigion, cynefinoedd, anifeiliaid ac ati, ac adrodd canfyddiadau,
● Gweithio gyda gwirfoddolwyr a phobl ifanc
● Gweithio ar brosiectau ailgylchu

Gall gynnwys sgiliau eraill yn y sector fel:-
● Hyrwyddo nodweddion a gwerthoedd y sefydliad
● Rheoli ymddygiad pobl ar y safle

Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer tasgau, i ddangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.

Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith.

Fel rhan o brentisiaeth mae’r adran wybodaeth yn cynnwys uned “Busnes ar gyfer Cadwraeth Amgylcheddol” ar wahân.

Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i ddiwallu eu hanghenion dysgu a datblygu. Diploma yw’r cymhwyster hwn, lle bo angen cyflawni 37 credyd o leiaf, o gyfuniad o unedau penodol.
Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystio.

Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol hefyd, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gwahoddir dysgwyr addas 16 oed a hŷn i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Gellir defnyddio’r cymhwyster fel cam agosach at lefel uwch fel dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn safle i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?