Diploma NVQ L2 C&G mewn Technegau Gwella Busnes

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA03862
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Dylai’r dysgu gael ei gwblhau o fewn 18 mis. Er mwyn cyflawni hyn mae angen cefnogaeth LAWN y cwmni a rheolwyr, gan fod prif elfennau’r cwrs hwn yn dibynnu ar gymhwyso technegau gwella busnes gyda phrosesau gwaith byw, go iawn.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

CYFLWYNO’R CWRS / CYMORTH TIWTOR –
Rhaglen ran-amser yw hon, a gyflwynir yn gyfan gwbl yn y gweithle gyda chymorth tiwtor ar gyfer aseiniadau ac asesiadau. Mae 5 gweithdy cychwynnol a gyflwynir dros gyfnod byr yn cynnwys gwybodaeth, dealltwriaeth a chymhwyso technegau gwella busnes. Yn ystod y gweithdai hyn, nodir ystod o brosiectau gwella a all gael effaith gadarnhaol ar fesurau Ansawdd, Cost a Chyflenwi ar gyfer y busnes, a fydd, ar lefel 2, yn disgwyl i ddysgwyr gyfrannu ato, gan ffurfio sail unrhyw asesiad dilynol, sy'n digwydd dros gyfnod o amser yn dilyn y gweithdai.

Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Cydymffurfio â rheoliadau statudol a gofynion sefydliadol
- Cyfrannu at waith tîm a chyfathrebu effeithiol
- Cyfrannu at gadw trefn yn y gweithle
- Cyfrannu at roi technegau gwella parhaus ar waith (kaizen)
- Cyfrannu at ddatblygu safoni a rheoli gweledol
- Rhoi dadansoddiad proses llif ar waith
- Cyfrannu at ddatrys problemau ymarferol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad. Mae Lefel 2 yn ddelfrydol os ydych chi’n gweithio neu’n dymuno gweithio mewn amgylchedd gwella busnes. Efallai bod gennych rywfaint o wybodaeth a sgiliau sylfaenol yn y diwydiant eisoes. Rydych chi eisiau cynyddu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am y prosesau sy’n gysylltiedig â gwella eich rhagolygon gyrfa neu symud ymlaen i astudiaeth bellach.
Nid oes unrhyw arholiadau na phrofion
Bydd pob uned yn cael ei hasesu gan amrywiaeth o dasgau asesu a all gynnwys arsylwadau, adroddiadau prosiect, dadansoddi ystadegol, gweithgareddau ymarferol, casglu dogfennaeth berthnasol ac ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau.
Yn ogystal â datblygu o fewn eich swydd bresennol, gall hyn hefyd eich galluogi i symud ymlaen i Dechnegau Gwella Busnes NVQ L3
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
19/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?