Diploma Lefel 2 FDQ am Hyfedredd mewn Gweithrediadau Bwyd a Diod (Cymru) - C00/4561/5 Diploma FDQ

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA16236
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Diploma ydy’r cymhwyster hwn a bydd angen cyflawni 37 credyd o leiaf.
Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.

Adran
Gweithgynhyrchu Bwyd
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gweithwyr yn y sector bwyd. Mae’r cymhwyster yn cynnwys ystod eang o unedau sy’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddangos gallu galwedigaethol mewn ystod o swyddi yn y sector gan gynnwys: Gweithiwr prosesu bwyd, gweithiwr pecynnu a dosbarthu bwyd, gweithiwr gwasanaethau/gwerthu bwyd, Gweithredwr sicrhau ansawdd bwyd.

Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.

Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith.
Bydd eich Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith Coleg Cambria yn ymweld â’r gweithle y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Bydd asesiadau yn cael eu cynnal i asesu cymhwysedd, gwybodaeth alwedigaethol a gwybodaeth greiddiol.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Bydd credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yn rhan o’r Fframwaith Prentisiaethau Cymru mewn Bwyd a Diod. Gall dysgwyr hefyd gyflawni’r cymhwyster hwn ar wahân i’r fframwaith prentisiaeth. Gellir defnyddio’r cymhwyster hwn fel hwb i symud ymlaen i gymhwyster uwch fel:
* Diploma Lefel 3 ar gyfer Hyfedredd mewn Gweithrediadau Bwyd a Diod (Cymru)

Cysylltwch â’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?