City & Guilds Tystysgrif Lefel 2 mewn Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
MY10053
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Dyma gymhwyster dysgu yn y gwaith sy’n hyblyg, agored ac y gellir dysgu o bell sydd fel arfer yn cymryd oddeutu 12 mis i’w gwblhau.
Adran
Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Dystysgrif Cynorthwyo gydag Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion yn addas ar gyfer Cynorthwywyr Dosbarth sydd un ai’n gweithio mewn swydd gyflogedig neu wirfoddol o dan oruchwyliaeth mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.

Rhaid i ddysgwyr gwblhau o leiaf 30 credyd i gyflawni’r Diploma. Byddwch yn ennill credydau trwy gwblhau nifer o unedau a gaiff eu llunio gan nifer wahanol o gredydau a lefelau. Mae unedau un ai’n seiliedig ar wybodaeth, sydd yn gofyn i ddysgwyr ddangos eu dealltwriaeth, neu’n seiliedig ar gymhwysedd, sydd yn gofyn i ddysgwyr ddangos eu cymhwysedd yn ymarferol.

Mae 9 uned orfodol y bydd 24 credyd ohonynt yn cael eu hennill ac amrywiaeth o unedau dewisol y bydd o leiaf 6 credyd ohonynt yn cael eu hennill.
Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n dymuno astudio’r cymhwyster hwn fod yn gweithio mewn lleoliad gwaith perthnasol a bod â’r cymhelliant i lwyddo yn yr hyn sydd i raddau helaeth yn gymhwyster sy’n cael ei arwain gan y dysgwr.
Mae’r rheiny sy’n cymryd y dystysgrif angen bod yn gweithio mewn swydd sy’n caniatau iddyn nhw ddangos y canlyniadau dysgu hynny sy’n berthnasol i’w gwaith bob dydd. Gall y rheiny sy’n cymryd y cymwysterau fod yn: • llawn amser neu’n rhan amser • parhaol neu dros dro • wedi’u cyflogi gan yr ysgol neu awdurdod lleol • yn seiliedig yn yr ysgol neu’n beripatetig • yn gweithio mewn ysgol a gynhelir, ysgol nas gynhelir neu ysgol annibynnol.

Bydd gofyn i ddysgwyr lunio portffolio o dystiolaeth, yn ddelfrydol drwy ddefnyddio system e-bortffolio, lle bydd eu cymhwysedd a’u dealltwriaeth alwedigaethol yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf penodol pob uned. Bydd asesydd yn cael ei benodi i bob dysgwr a fydd yn arsylwi arnynt yn rheolaidd yn eu gweithle wrth iddynt wneud eu gwaith. Bydd dulliau asesu eraill yn cynnwys tystiolaeth tystion, trafod a chwestiynu, dogfennau sy’n gysylltiedig â gwaith ac adroddiadau ysgrifenedig hunan-adfyfyriol. Ar gyfer unedau yn seiliedig ar wybodaeth efallai y bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai ac yn cwblhau aseiniadau wedi’u gosod.

Gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen, ar yr amod bod swydd, i astudio Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion. Fel arall, gallai’r cymhwyster hwn arwain at ragolygon gyrfa well.
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at:cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?