Tystysgrif Lefel 2 Skillsfirst mewn Cynhwysiant LHDT yn y gweithle

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer ymgeiswyr i fod yn fwy ymwybodol am sut i ryngweithio’n gyfforddus gyda phobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol (LHDTQ+) yn y gweithle.

Mae wedi’i lunio i wneud unigolion yn ymwybodol o hanes a diwylliant LHDTQ+ a’r polisïau a’r ddeddfwriaeth sefydliadol sy’n effeithio ar bobl LHDTQ+ yn y gweithle.

Hefyd mae’n archwilio effaith iaith, stereoteipio a rhagdybiaethau sy’n gysylltiedig â phobl LHDTQ+ ac yn ystyried sut y gall unigolion mewn sefydliadau gyfrannu orau at gynnal amgylchedd cefnogol yn y gweithle ar gyfer pobl LHDTQ+.
Gall tystiolaeth gynnwys ystod o enghreifftiau y dylid eu cofnodi mewn rhyw ffordd.

Gall mathau o dystiolaeth gynnwys: datganiad dysgwr, nodiadau, adolygiad a chofnodion tiwtorial, adroddiad, dyddiadur, taflen waith, trafodaeth/cyflwyniad/cyfweliad wedi’i recordio drwy sain/fideo, arsylwad asesydd, datganiad tyst, cynnyrch, llyfr gwaith/e-asesiad.

Bydd cofnod o dystiolaeth yn cadarnhau i’r asesydd ei hyder yn ehangder a dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr o ran gallu bodloni gofynion swyddogaethol yr holl unedau yn gymwys
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ond rhaid i chi gael y potensial a’r cyfle i gasglu tystiolaeth ar gyfer y cymhwyster yn y gweithle.
Bydd y cymhwyster hwn yn gwella ymwybyddiaeth unrhyw sefydliad neu weithle i weithio’n effeithiol gyda pholisïau a gweithdrefnau.
£295.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?