Trosolwg o’r Cwrs

Os nad yw cwrs llawn amser yn cyd-fynd â’ch bywyd neu ymrwymiadau gwaith, beth am gofrestru ar gyfer cwrs trefnu blodau 3 awr yr wythnos?

Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i chi wella eich iechyd a’ch llesiant drwy amgylchynu’ch hun gydag arogleuon bendigedig a lliwiau tymhorol. Byddwch chi’n dysgu sgiliau newydd y gallwch chi eu rhoi ar waith mewn amgylchedd croesawgar a chyfeillgar.

Mae’r cwrs yn cynnwys:
● Tuswau wedi’u clymu â llaw ar gyfer anrhegion ac achlysuron eraill
● Trefniadau’r Gwanwyn
● Addurniadau canol bwrdd wedi’u gwneud o flodau’r Gwanwyn ar gyfer anrhegion ac achlysuron eraill
● Defnyddio planhigion mewn dyluniadau blodau

Wrth ddysgu sgiliau ymarferol, byddwch chi hefyd yn ennill gwybodaeth am egwyddorion dylunio, harmonïau lliw ac elfennau, yn ogystal â gwerthfawrogi enwau Lladin deunyddiau blodau.

Nid oes asesiadau ffurfiol, ond byddwch chi’n cael adborth a’ch gwerthuso i gynorthwyo eich perfformiad a’ch dysgu.

***Caiff blodau eu darparu ar yr wythnos gyntaf yn unig
Amherthnasol
Mae’n rhaid bod yn 16 oed neu’n hŷn, a gyda diddordeb gwirioneddol mewn blodeuwriaeth

Efallai y byddwch chi’n dymuno symud ymlaen i’n cyrsiau Trefnu Blodau eraill ar ôl i chi gwblhau’r cwrs hwn

£155 – Bydd gofyn i chi ddod â’ch blodau, eich offer a’ch manion eich hunain (caiff rhestr ei darparu yn ystod wythnos 1)

Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?