​Cyflwyniad i Reolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy​

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Rheolwyr Rhesymeg Rhaglenadwy yn systemau rheoli yn seiliedig ar gyfrifiadur sy’n cael eu defnyddio mewn awtomatiaeth ddiwydiannol i fonitro a rheoli peiriannau neu brosesau. Maen nhw wedi’u dylunio i wrthsefyll amgylcheddau diwydiannol caled ac yn arferol maen nhw’n cael eu defnyddio i awtomeiddio tasgau sydd angen manylder, dibynadwyedd a hyblygrwydd.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o sut mae Rheolwyr Rhesymeg Rhaglenadwy (PLC) yn gweithio, y caledwedd a’r feddalwedd sy’n rhan o PLC a’r rhyngweithiad rhwng y cydrannau. Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i ddyfeisiau maes mewnbwn ac allbwn, dulliau cyfathrebu a chymwysiadau cyffredin PLC.

Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i ddefnyddio a chymhwyso PLC, y caledwedd a'r feddalwedd sy'n ffurfio PLC a'r rhyngweithiad rhwng y cydrannau. Bydd dysgwyr yn datblygu eu gallu i ddefnyddio technegau rhaglennu safonol i gynhyrchu rhaglenni syml ar gyfer PLC modern. Byddant hefyd yn dod i ddeall y gwahanol fathau o gyfryngau cyfathrebu sy’n cael eu defnyddio i gysylltu niferoedd mwy o PLC â'i gilydd, y saernïaeth rwydweithio sy’n cael ei defnyddio a'r safonau a phrotocolau cysylltiedig.

Bydd y cwrs yn gorffen gyda dysgwyr yn creu rhaglen PLC syml ar gyfer proses weithgynhyrchu diwydiannol nodweddiadol gan ddefnyddio meddalwedd efelychu 3D modern.

Deilliannau dysgu

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd y dysgwr yn:

Deall gofynion dewis, caledwedd a meddalwedd PLC.
Gallu defnyddio technegau rhaglennu safonol i gynhyrchu rhaglen ar gyfer PLC.
Deall cymwysiadau rheolwr rhaglenadwy syml.
Deall cyfryngau a rhwydweithiau cyfathrebu data sy’n cael eu defnyddio gyda PLC modern.
Datblygu a phrofi rhaglen PLC syml.

Asesiadau ffurfiannol amlddewis rheolaidd.
Does dim angen gwybodaeth flaenorol, er byddai dealltwriaeth o egwyddorion peirianneg mecanyddol/trydanol cyffredinol yn fanteisiol.
Technegydd PLC
Rhaglennydd PLC
Trydanwr Diwydiannol
Technegydd Rheoli
Peiriannydd Cynnal a Chadw
Technegydd Awtomatiaeth
Technegydd Offeryniaeth a Rheoli,
echnegydd Gwasanaeth Maes
Technegydd Awtomatiaeth Proses.
£180 y dysgwr (6 o leiaf)
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?