Mynediad Cyfun i AU - Gofal Iechyd
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y Diploma yw paratoi dysgwyr i astudio mewn prifysgol. Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau gorfodol yn y pynciau arbenigol, ynghyd ag Astudiaethau Sgiliau Craidd. Mae’r unedau’n cynnwys pynciau fel Anatomi a Ffisioleg, Cymdeithaseg / Seicoleg ac Iechyd. Bydd y sgiliau craidd yn cynnwys sgiliau fel cyfathrebu ac astudio.
Cyflawnir y rhaglen drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn waith aseiniadau gyda rhywfaint o brofiad ateb profion wedi’u hamseru neu sefyll arholiadau. Enillir credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Graddau’r credydau lefel 3 yw Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn derbyn Diploma Mynediad I Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn derbyn Diploma Mynediad I Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
TGAU gradd C/4 mewn Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg, gyda gradd D/3 o leiaf yn y pwnc arall.
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.
Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19 oed neu’n hŷn i astudio’r cwrs hwn.
Dylai’r dysgwyr ymrwymo I raglen lefel 3 amser llawn ac I ddatblygu eu gallu I astudio. Mae sgiliau TG yn hanfodol oherwydd bod rhan sylweddol o’r cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein.
Anogir darpar ymgeiswyr I gysylltu â phrifysgolion I gael rhagor o wybodaeth am eu gofynion mynediad. Mae llawer o gyrsiau gradd Nyrsio yn gofyn am gymwysterau TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg neu Saesneg.

Cafodd y cymhwyster Gofal Iechyd ei lunio ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i astudio cyrsiau gradd a dilyn gyrfaoedd yn y sector gofal, fel Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg neu Reoli Iechyd.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.