main logo

Lefel 1 mewn Niwro-gelf

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87961
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn llawn amser – Iâl
Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae lefel 1 mewn Niwo-gelf yn gwrs cynhwysol gyda chefnogaeth lawn sy'n darparu amgylchedd dysgu a fydd yn gweddu orau i CHI. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion a galluoedd dysgwyr niwroamrywiol ac mae’n ffordd wych o ddysgu rhagor am Gelf, Dylunio a’r Cyfryngau a’r hyn y gall ei gynnig.

Mae astudio cwrs Niwro-gelf yng Ngholeg Cambria yn eich galluogi i archwilio elfennau celf trwy wahanol gyfryngau ac archwilio diwydiannau creadigol. Mae'n eich rhoi chi yn y lle gorau posibl i gael y gorau o'r amgylchedd creadigol hwn a manteisio i'r eithaf ar eich potensial.

Bydd Niwro-gelf yn rhoi'r cymysgedd cywir o sgiliau i chi er mwyn datblygu eich uchelgeisiau, gan sicrhau eich bod yn cael y profiad a'r wybodaeth gyffredinol orau i lwyddo. Ar y cwrs byddwch yn gweithio gyda staff arbenigol i wireddu eich gwir botensial, wrth i chi ddatblygu eich sgiliau creadigol. Gyda chymorth llawn, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu cymdeithasol, trefniadol a bywyd a byw.

Gyda chymorth llawn ym mhob maes o’r cwrs gan staff cymorth profiadol, arbenigol, bydd gennych yr hyder a’r gallu i archwilio diwydiannau creadigol, gyda’r opsiwn i symud ymlaen o fewn y coleg i gyflawni llwyddiant mewn bywyd a gwaith.

Diddordeb mewn diwydiannau creadigol? Gall y cwrs hwn eich helpu i fynd ar y trywydd iawn!

Ar y cwrs hwn bydd cymhwyster UAL Lefel 1 mewn Celf, Dylunio a’r Cyfryngau yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo, ar draws ystod o wahanol unedau ac arbenigeddau. Gall hyn gynnwys rhai o’r canlynol -


● Ymchwilio i bwnc
● Elfennau Celf
● Lluniadu Digidol
● Animeiddio Digidol
● Ffotograffiaeth
● Dylunio Graffeg

Bydd datblygiad llythrennedd a rhifedd yn ganolbwynt craidd i bob dysgwr ar y rhaglen gyda phob dysgwr yn cael y cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.

Bydd Hyfforddwr Cynnydd yn cael ei neilltuo i ddysgwyr a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a all godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i'w helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Asesu parhaus trwy dasgau a monitro gan diwtor
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon rhaid i ddysgwyr gael anhawster cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion Celf, a bod â Chynllun Dysgu a Sgiliau, Cynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal cyfredol sy’n dogfennu anhawster cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud y gorau y gallwch yn eich arholiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gall olygu y byddwch yn gallu cyrchu cwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr symud ymlaen i’r lefel ddysgu nesaf Symud ymlaen i’r lefel ddysgu nesaf fel y rhai a gynigir mewn Lefel 2 mewn Celf neu Ddylunio Digidol, Hyfforddeiaeth, Prentisiaeth neu gyflogaeth llawn amser.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?