main logo

Lefel 2 Niwro- Gofal Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01529
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
06 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs Lefel 2 Gofal Niwro Anifeiliaid yn un cynhwysol sydd wedi’i gefnogi’n llwyr, a'i nod yw darparu’r amgylchedd dysgu sydd orau i CHI. Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio i fodloni anghenion a gallu dysgwyr niwroamrywiol, ac mae’n ffordd wych o ddysgu rhagor am ofal anifeiliaid a’r hyn y gallai ei gynnig.

Bydd y Ganolfan Gofal Anifeiliaid rhagorol yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau ymarferol gwerthfawr gyda dros gant o rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys cwningod, geifr, nadroedd, madfallod a chnofilod. Byddwch hefyd yn dysgu ystod eang o wybodaeth sylfaenol. Bydd y cyfuniad hwn yn rhoi mantais i chi gyda’ch llwybr gyrfa dewisol.

Bydd y cwrs Gofal Niwro Anifeiliaid yn rhoi i chi’r cyfuniad perffaith o sgiliau i gynyddu eich uchelgais, gan sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau a’r wybodaeth i lwyddo. Byddwch yn gweithio gyda staff arbenigol i ddatblygu eich sgiliau mewn gofalu am anifeiliaid. Bydd yn cael eich cefnogi’n llwyr, a byddwch hefyd yn meithrin sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu, trefnu, a sgiliau bywyd a byw.

Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar y rhaglen, a bydd cyfle i chi ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu gymwysterau TGAU.

Byddwn yn pennu Anogwr Cynnydd i chi, a fydd yn eich helpu trwy gydol eich amser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eich rhaglen i’ch helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Caiff y cwrs ei asesu drwy asesiad parhaus ac adeiladu portffolio.

Efallai bydd dysgu Saesneg a Mathemateg yn cynnwys sefyll arholiadau.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon rhaid i ddysgwyr gael anawsterau cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth a bod â Chynllun Dysgu a Sgiliau, Cynllun Datblygu Unigol neu Addysg, Cynllun Iechyd a Gofal sy’n dogfennu anhawster cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth.

Y gofynion mynediad arferol yw 4 TGAU gradd E/2 neu uwch, ac awydd am yrfa yn y diwydiant anifeiliaid yn y dyfodol.
Neu
Gwblhau Lefel 1 mewn Gofal Niwro Anifeiliaid yn llwyddiannus.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus gallech symud ymlaen i’r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid neu gwrs Rheoli Niwro Anifeiliaid Lefel 3 neu Brentisiaeth Dysgu yn y Gwaith Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid.

Efallai y bydd dysgwyr sy’n dymuno dod o hyd i waith yn gallu gweithio mewn sŵau, siopau anifeiliaid anwes, lletyau cathod a chŵn, canolfannau achub anifeiliaid, milfeddygfeydd ac mewn nifer o ddisgyblaethau gofal anifeiliaid eraill.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer y cwrs hwn. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?