Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP87952 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Cwrs llawn amser, blwyddyn o hyd yw hwn i ddechrau, gydag estyniad i’r ail flwyddyn ar gyfer y Diploma Estynedig. |
Adran | Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch chi wrth baratoi i ymuno â’r sefydliad gwasanaeth diogelu o’ch dewis chi. Mae'r sefydliadau hynny'n cynnwys sefydliadau fel Cyfiawnder Troseddol a Rheoli Troseddwyr fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Carchardai neu'r Asiantaeth Ffiniau, Y Gwasanaeth Tân ac Achub neu'r Lluoedd Arfog, fel y Fyddin Brydeinig, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol; neu fel arall, gallwch fynd ymlaen i astudio maes cysylltiedig mewn prifysgol.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau gorfodol damcaniaethol ac ymarferol,
• Dinasyddiaeth ac Amrywiaeth
• Ymddygiad a Disgyblaeth yn y Gwasanaethau Diogelu mewn Lifrai
• Paratoi’n Gorfforol
• Iechyd a Lles a Gwaith Tîm
• Arweinyddiaeth a Chyfathrebu yn y Gwasanaethau Diogelu mewn Lifrai;
Tra bydd unedau dewisol yn cynnwys
• Cyflwyniad i Droseddeg a Datblygiad Proffesiynol yn y Gwasanaethau Diogelu mewn Lifrai.
Byddwch yn astudio i ennill Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch, a bydd disgwyl i chi ymgymryd â Her Dinasyddiaeth Fyd-eang. Bydd disgwyl i chi hefyd wirfoddoli ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned fel rhan o Her Gymunedol.
Byddwch yn gweithio i wella eich llythrennedd a’ch rhifedd trwy gydol y cwrs hefyd..

Byddwn yn eich asesu gan ddefnyddio ystod o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, gweithgareddau ymarferol ac ymarferion datblygu sgiliau eraill. Byddwn yn eich asesu’n barhaus ar y rhaglen hon a byddwch yn gallu ennill lefelau cyrhaeddiad Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Yn ystod y cwrs, cewch elwa o ymweliadau â gwahanol sefydliadau gwasanaeth diogelu (yn amodol ar argaeledd) a bydd cynrychiolwyr asiantaethau gwirfoddol a sefydliadau, sy’n berthnasol i’ch gyrfa a’r rhaglen hon, yn ymweld â ni. Bydd cynrychiolwyr nifer o Wasanaethau Diogelu mewn Lifrai gwahanol yn ymweld â ni, gan gynnwys yr Heddlu a’r Lluoedd Arfog..

5 TGAU gradd A*-C neu 9-4 ar gyfer TGAU Saesneg gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf),
Ar gyfer dysgwyr dilyniant – mae angen cwblhau cwrs lefel 2 yn llwyddiannus a gweithio ar radd C/4 TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch

Bydd y cwrs yn sail ddelfrydol ar gyfer symud ymlaen naill ai i brentisiaethau’r Heddlu, prentisiaethau’r Gwasanaeth Tân ac Achub, prentisiaethau’r Lluoedd Arfog, neu fel arall gallwch symud ymlaen i addysg uwch; mewn nifer o ddisgyblaethau gwahanol, gan gynnwys gradd Cyfiawnder Troseddol FdSc gyda Rheoli Troseddwyr.
Mae cyn fyfyrwyr wedi astudio pynciau amrywiol fel Cyfiawnder Troseddol, Astudiaethau Plismona, Chwaraeon, Seicoleg, Cymdeithaseg, Troseddeg, neu HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.
Bydd hefyd o fudd penodol i unigolion sy’n dymuno dechrau a dilyn gyrfa yn y Fyddin Brydeinig, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol, y Gwasanaeth Carchardai neu’r Asiantaeth Ffiniau.

Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisgoedd ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListBarod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.