main logo

Diploma Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87950
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Cwrs llawn amser, blwyddyn o hyd yw hwn i ddechrau, gydag estyniad i’r ail flwyddyn ar gyfer y Diploma Estynedig.
Adran
Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Byddwch yn cwblhau rhaglen sy'n cynnwys unedau craidd ac unedau dewisol, gan gynnwys:

• Anatomeg
• Ffisioleg
• Asesiad Risg
• Profion ffitrwydd
• Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Gweithredol
• Iechyd
• Lles a Chwaraeon
• Datblygu Sgiliau Hyfforddi
• Datblygu Chwaraeon
• Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol.

Bydd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru uwch yn rhan o'r cwrs hefyd. Mae’r Fagloriaeth yn ehangu dysgu’r myfyrwyr, gan feithrin y sgiliau a'r nodweddion personol y mae cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn chwilio amdanynt.

Efallai bydd cyfle i ennill cymwysterau arwain a hyfforddi chwaraeon yn ystod y cwrs hefyd. Bydd disgwyl i’r holl ddysgwyr wella’u sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Caiff pob uned yn cael ei hasesu a’i graddio a rhoddir gradd gyfansawdd ar gyfer y cymhwyster ar lefel llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth.

Mae disgwyl i fyfyrwyr gwblhau’r oriau dysgu dan arweiniad angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster hwn.

Efallai y cewch eich asesu fel a ganlyn: aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, perfformiad ymarferol, cyflwyno sesiynau hyfforddi a thrafodaethau proffesiynol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg.

Ar gyfer dysgwyr dilyniant Diploma Lefel 2 mewn pwnc perthnasol gyda TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith.

Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr diddordeb brwd mewn cymryd rhan mewn chwaraeon, eu hyfforddi neu eu gweinyddu.


Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.
Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Bydd y myfyrwyr sy’n llwyddiannus yn ail flwyddyn y rhaglen (Y Diploma Estynedig mewn Chwaraeon) yn gallu datblygu eu hastudiaethau academaidd ymhellach mewn sefydliadau addysg uwch. Mae graddau sylfaen mewn chwaraeon ar gael yn y coleg hefyd.

Neu bydd myfyrwyr yn gallu dod o hyd I waith yn y diwydiannau chwaraeon / hamdden, e.e. hyfforddi chwaraeon, iechyd a ffitrwydd, lluoedd Ei Mawrhydi, yr heddlu, y gwasanaeth tân.
Efallai bydd angen prynu cyfarpar a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.

Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn wneud cais am gliriad DBS. Codir ffi fel y’i pennir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?