main logo

Mynediad i Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus a Thwristiaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87946
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 1 blwyddyn llawn amser.
Adran
Sgiliau Sylfaen, Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio fel cyflwyniad i'r sectorau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i ragor o ddysgu, prentisiaeth neu gyflogaeth.

Mae modiwlau’n cynnwys Chwarae Chwaraeon, Cadw’n Heini ac Iach, Cymryd Rhan mewn Profion Ffitrwydd, Cynllunio a Llywio Llwybr, a Gweithio gydag Eraill. Bydd arbenigwyr yn y diwydiant yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad o weithio mewn Gwasanaethau Cyhoeddus Lifrai a gweithio ym maes Chwaraeon i roi mewnwelediad ystyrlon i'r sectorau amrywiol.

Bydd pob dysgwr sy’n astudio’r rhaglen yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, gan gynnwys gweithgareddau yn yr awyr agored ac Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Bydd llythrennedd a rhifedd yn brif ganolbwynt ar gyfer pob dysgwr ar y rhaglen a bydd bob dysgwr yn cael y cyfle i wneud cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
+
Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu cynorthwyo yn ystod y rhaglen. Ynghyd â’r Prif Diwtor Cwrs bydd y tîm yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn ei lle cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd sy’n codi yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen er mwyn eu helpu i lwyddo. Darperir cymorth llawn i fodloni anghenion a gwahaniaethau dysgu unigol.

Cyflwynir y cwrs dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o gyflwyno yn y dosbarth a chyflwyno ymarferol dan do ac yn yr awyr agored.
Mae rhan fwyaf o gydrannau’r cwrs yn cael eu hasesu’n barhaus gan ddefnyddio gwaith ysgrifenedig ac ymarferol ac maent yn dibynnu ar lefel rhagorol o bresenoldeb.
Mae’r cwrs wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar Lefel Mynediad felly nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol i gael mynediad at y cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael eu cynorthwyo i gynllunio eu camau nesaf yn ystod y cwrs. Gallai dilyniant fod yn un o’r canlynol:
Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol mewn maes o’ch dewis
Rhaglen hyfforddeiaeth neu brentisiaeth
Cyflogaeth
Rhaglen yn y gymuned
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?