Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA99462 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Rhan Amser, 14 wythnosAr ddydd Mercher 9:00-12:00 ar ein safle Glannau Dyfrdwy o 01/03/23 tan 17/05/23 |
Adran | Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG |
Dyddiad Dechrau | 01 Mar 2023 |
Dyddiad Gorffen | 17 May 2023 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi’n hoffi chwarae gemau cyfrifiadur? Ydych chi erioed wedi meddwl sut
maent yn cael eu creu? Hoffech chi ddysgu sut i wneud golygfeydd ar gyfer
lefel mewn gêm cyfrifiadur?
Mae’r cwrs perffaith i chi YMA!
Bydd y cwrs Cyflwyniad i Greu Gemau Cyfrifiadur yn cyflwyno’r wybodaeth
sylfaenol o greu gemau digidol. Nod y cwrs yw dangos y wybodaeth sylfaenol o
greu gemau digidol, rhoi technegau gwahanol ar waith, y technegau y mae’r
rhai ohonom sydd â diddordeb mewn gemau yn eu gweld tro ar ôl tro.
Mae’r meddalwedd yn cael ei defnyddio i greu amgylcheddau 3D, ac mae
hynny yn berthnasol hefyd i bobl neu gwmnïau sydd â diddordeb mewn pethau
fel Rhithrealiti a datblygu Efeilliaid Digidol.
Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu defnyddio’r technegau sydd wedi’u harddangos yn rhaglen Unreal Engine 5. Mae Unreal Engine yn feddalwedd am ddim sy’n eiddo i Epic Games. Byddwch yn defnyddio technegau i greu gêm saethu person cyntaf lle y byddwch yn ychwanegu Deallusrwydd Artiffisial i elyn. Byddwch yn dysgu sut i greu bar iechyd chwaraewr, gosod gwrthrychau peryglus sy’n gallu niweidio iechyd y chwaraewr, casglu eitemau casgladwy a llawer o dechnegau creu gemau defnyddiol eraill.
Mae’r gemau adnabyddus sydd wedi’u creu wrth ddefnyddio Unreal Engine 5
yn cynnwys: Fortnite, Yoshi's Crafted World, Hellblade: Senua's Sacrifice, Street Fighter 5, a Star Wars Jedi: Fallen Order. Unreal Engine 5 yw’r
fersiwn diweddaraf o’r feddalwedd hon.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol oni bai am fod yn gyfarwydd â sut
mae cyfrifiadur yn gweithio yn sylfaenol - dewch I ddysgu’r sgiliau technegol
sydd eu hangen arnoch i’ch helpu I greu gêm cyfrifiadur person cyntaf modern.

Asesu parhaus trwy dasgau a monitro gan diwtor
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r rhyngrwyd.
Bydd y cwrs hwn yn darparu nifer o’r sgiliau angenrheidiol er mwyn eich cynorthwyo chi i gael swydd yn y meysydd cyfryngau creadigol a datblygu gemau.
£99 neu am ddim os ydych yn gymwys I gael cyllid PLA. I fod yn gymwys, rhaid I chi fod dros 19 oed, yn gyflogedig ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn neu’n weithiwr ffyrlo (unrhyw gyflog) neu’n hunangyflogedig.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Barod i ddechrau ar eich taith? Gwnewch gais rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Ffordd y Bers
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Iâl
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Ffordd Y Bers
15/03/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.