Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA99302 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Rhan Amser, Glannau Dyfrdwy – dydd Mawrth – 18:00-21:00 – 13/12/2022 i 07/03/2023 |
Adran | Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG |
Dyddiad Dechrau | 13 Dec 2022 |
Dyddiad Gorffen | 07 Mar 2023 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Mae marchnata digidol yn rhan annatod o strategaeth farchnata gyffredinol ac mae’n cynnwys defnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol i gynyddu ymwybyddiaeth a hysbysebu cynnyrch neu wasanaeth.
Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, mae defnyddwyr yn cynhyrchu llawer iawn o wybodaeth, sydd hefyd yn rhagweithiol, ac maent yn rhannu gwybodaeth yn fwy nag erioed.
Erbyn hyn mae gan y defnydd o gyfryngau cymdeithasol gyrhaeddiad mor enfawr nes bod marchnata digidol yn ceisio manteisio arno, gan anelu at gysylltu ac ymgysylltu â darpar gwsmeriaid mewn ffordd bersonol trwy ystod o sianeli cyfryngau.
This course will introduce you to the necessary concepts involved in this process and provide you with the tools to use social media and digital marketing in an impactful way.
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i’r cysyniadau angenrheidiol sydd ynghlwm â’r broses hon ac yn eich galluogi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol mewn ffordd ddylanwadol.
Fel rhan o'r cwrs hwn bydd disgwyl i chi greu / ddefnyddio cyfrif e-bost yn ogystal ag ystod o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i helpu datblygu eich sgiliau a chreu proffiliau perthnasol. Byddwch yn defnyddio'r proffiliau a'r offer marchnata hyn i helpu i hyrwyddo busnes bach ffug.
Mae’r wybodaeth a sgiliau’r sector yn cynnwys -
Technolegau cyfathrebu digidol
● Y gwahanol fathau o dechnolegau cyfathrebu digidol, gan gynnwys: negeseuon e-bost, gwefannau cyfryngau cymdeithasol, blogiau, fforymau, technolegau cyfathrebu clyweled, negeseuon gwib
● Nodweddion cyfathrebu digidol, gan gynnwys: cyfathrebu drwy destun, sain ac ar-lein, ffeiliau wedi’u hatodi, dulliau cyfathrebu un i un ac â grwpiau
● Y ffactorau i'w hystyried wrth ddewis technoleg cyfathrebu digidol, gan gynnwys: addasrwydd i'r pwrpas, gwahaniaethau rhwng negeseuon gwib, cyfathrebu clyweled ac e-bost
Sgiliau defnyddio technolegau cyfathrebu digidol
● Dewis a chreu cynnwys, gan gynnwys: testun wedi’i fformatio’n briodol, lluniau, dolenni gwe
● Defnyddio technolegau cyfathrebu clyweled (cynadledda ar-lein), gan gynnwys offer sain a fideo
● Postio cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo buddiannau busnesau
Defnyddio technolegau cyfathrebu digidol yn ddiogel
● Bygythiadau i ddiogelwch wrth ddefnyddio technolegau cyfathrebu digidol
● Dulliau diogelu rhag bygythiadau i ddiogelwch
● Pwysigrwydd diogelu gwybodaeth bersonol a’r dulliau i wneud hynny
● Iechyd a Diogelwch ac arferion gweithio’n ddiogel.

Asesu parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r rhyngrwyd.
Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r offer angenrheidiol i chi helpu gyda chynllunio a gweinyddu ymgyrch marchnata digidol a chreu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.
£99 neu am ddim os yn gymwys am gyllid PLA. I fod yn gymwys, rhaid I chi fod yn hŷn na 19 oed, yn gyflogedig ac yn ennill o dan £29,534 y flwyddyn neu’n weithiwr ar ffyrlo (unrhyw gyflog) neu’n hunangyflogedig.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Ffordd y Bers
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Iâl
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Ffordd Y Bers
15/03/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.