Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA99299 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Rhan Amser, Iâl – Dydd Mawrth – 18:00-21:00 – 18/04/2023 tan 27/06/2023 |
Adran | Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG |
Dyddiad Dechrau | 18 Apr 2023 |
Dyddiad Gorffen | 27 Jun 2023 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi erioed wedi bod eisiau creu gwefan eich hun? Oes gennych chi ddiddordeb mewn dylunio a datblygu gwefannau ond erioed wedi bod yn siŵr ble i ddechrau?
Dyma’r cwrs i CHI!
Gellir cyflwyno gwybodaeth am ddiddordebau arbenigol drwy wefan neu ei ddefnyddio i ddatrys anghenion busnes cyfredol ar gyfer unrhyw gwmni. Yn wir, mae’n anodd dychmygu bod busnesau nad oes ganddo bresenoldeb ar y we yn bodoli. Ydych chi erioed wedi bod eisiau gwybod sut mae gwefannau yn cael eu creu? Hoffech chi ddysgu sut i greu gwefan am eich diddordebau personol?
Os felly, dyma’r cwrs i chi!
Mae’r cwrs Dylunio a Datblygu Gwefannau yn eich arwain trwy hanfodion HTML (Iaith Farcio Hyperdestun - yr iaith a ddefnyddir i greu gwefannau) gan ddefnyddio rhaglen Microsoft Expression Web. Rhaglen am ddim yw hon. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r meddalwedd ar y cwrs yn ogystal â dysgu sut i lawrlwytho’r meddalwedd gartref er mwyn i chi allu parhau i weithio ar yr ymarferion a pharhau i adeiladu ar eich syniadau am eich gwefan. Bydd e-lyfrau sy’n dangos i chi sut i ddefnyddio’r meddalwedd hefyd ar gael.
Yn ogystal â dangos i chi sut i ddefnyddio’r rhaglen Microsoft Expression Web byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio Adobe Dreamweaver. Rhaglen safon y diwydiant yw hon a gaiff ei defnyddio gan ddylunwyr proffesiynol i greu gwefannau. Mae Adobe Dreamweaver yn feddalwedd trwyddedig sy’n rhaid talu amdani ond bydd cyfle i chi ddefnyddio’r rhaglen yn y coleg yn ystod y cwrs.
Mae’r cwrs hwn yn anelu i ddangos hanfodion dylunio a datblygu gwefannau i chi gan ddefnyddio cymysgedd o HTML, CSS (Dalennau Diwyg Rhaeadrol) ac egwyddorion dylunio gwefan.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch oni bai am fod yn gyfarwydd â gweithrediadau sylfaenol cyfrifiadur - byddwch chi’n dysgu’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i greu gwefan. Byddai’n ddefnyddiol cael set o glustffonau gyda chi ar gyfer ambell ran o’r cwrs.

Asesiad parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r rhyngrwyd.
Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r offer angenrheidiol i chi i’ch helpu i ddysgu sut i greu gwefan llwyddiannus.
£99 neu am ddim os yn gymwys am gyllid PLA. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn hŷn na 19 oed, yn gyflogedig ac yn ennill o dan £29,534 y flwyddyn neu’n weithiwr ar ffyrlo (unrhyw gyflog) neu’n hunangyflogedig.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Barod i ddechrau ar eich taith? Gwnewch gais rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Ffordd y Bers
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Iâl
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Ffordd Y Bers
15/03/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.