Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Dyfarniad Lefel 1 NCFE CACHE mewn Paratoi i Weithio mewn Ysgolion
Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA99195 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Rhan Amser, Rhan Amser, 12 wythnos – 9.30-2.30 |
Adran | Gofal Plant |
Dyddiad Dechrau | 06 Feb 2023 |
Dyddiad Gorffen | 12 Jun 2023 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn yn eich paratoi chi ar gyfer dysgu a hyfforddi pellach wrth ddatblygu dealltwriaeth o’r amgylchedd addysgu a dysgu mewn ysgol.
Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster ar sail gwybodaeth, sy’n cynnwys 3 uned. Nod y cyntaf yw eich helpu chi i ddeall ysgolion fel sefydliadau; mae’r ail yn ymwneud â deall sut i gadw plant a phobl ifanc yn iach a diogel, ac mae’r uned olaf yn eich helpu chi i ddeall sut i gyfathrebu â phlant, pobl ifanc ac oedolion.

Asesir y cymhwyster hwn yn fewnol gan ddefnyddio ystod o ddulliau, sy’n gallu cynnwys aseiniadau ysgrifenedig neu dasgau fel dylunio taflen neu lyfryn, siartiau neu ddiagramau, neu osod bwrdd gwybodaeth.
Nid oes gofynion mynediad penodol. Dyma gymhwyster gwybodaeth yn unig. Nid oes angen i ddysgwyr fod yn gweithio nac yn ymgymryd â lleoliadau gwaith ymarferol i ddilyn y cymhwyster hwn.
Gall dysgwyr gael cyfle i symud ymlaen at gymhwyster lefel 2 addas fel Tystysgrif Lefel 2 mewn Cymorth Addysgu a Dysgu i gynorthwyo llwybr gyrfa fel cymhorthydd addysgu.
Mae’r cwrs hwn am ddim os ydych chi’n hŷn na 19 oed ac yn byw yn Wrecsam neu Sir y Fflint. Os ydych chi’n iau na 19 oed mae cost o £150. Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl hŷn na 18 oed yn unig.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Barod i ddechrau ar eich taith? Gwnewch gais rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Ffordd y Bers
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored i Oedolion – Iâl
24/01/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad am eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Ffordd Y Bers
15/03/2023
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.