Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01502 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos) |
Adran | Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae, Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Mae Mynediad i Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn cynnig rhaglen wedi'i chefnogi'n llawn i ddysgwyr ar gam cyntaf eu taith addysg bellach yn y sector hwn.
Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc chwalu unrhyw rwystrau sydd ganddynt i ddysgu, gan ganiatáu iddynt dyfu a datblygu'n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd er mwyn cyflawni eu llawn botensial a symud ymlaen yn llwyddiannus i'w lefel nesaf o ddysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.
Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, eu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd mewn awyrgylch croesawgar.
Bydd datblygiad llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ac unwaith y byddant yn barod, bydd dysgwyr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.
Bydd dysgwyr yn cael Hyfforddwr Bugeiliol a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen er mwyn eu helpu i lwyddo. Mae'r cwrs yn cael ei gefnogi'n llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Cyflwynir Mynediad i Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant dros dri diwrnod.

Bydd pob dysgwr yn cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu i ennill cymhwyster Mynediad Sgiliau Bywyd a Byw, cymhwyster Cyflawni Ymddiriedolaeth y Tywysog a gwobr Efydd Dug Caeredin i gefnogi dilyniant pellach i Addysg Bellach neu Ddysgu yn y Gwaith.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad felly nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer mynediad i’r cwrs hwn.
Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau oll fydd eich graddau, po fwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.

Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs. Gallai dilyniant fod i un o’r canlynol:
Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi
Rhaglen hyfforddeiaeth neu brentisiaeth
Cyflogaeth
Rhaglen yn y gymuned.

Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListBarod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.