Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP87923 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Cwrs llawn amser 1 Flwyddyn, sy’n addas ar gyfer symud ymlaen at astudio Lefel 3, neu baratoi ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau, neu leoliadau gwaith. |
Adran | Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol a Digwyddiadau Byw |
Dyddiad Dechrau | 06 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r Diploma L2 mewn Sain a Chynhyrchu Cerddoriaeth yn gyflwyniad i agweddau technegol a chreadigol y diwydiannau sain a chynhyrchu cerddoriaeth. Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu am feysydd fel Cynhyrchu Cerddoriaeth (gan gynnwys cymysgu, ailgymysgu a recordio mewn stiwdio), Cynhyrchu Sain Byw a chreu sain ar gyfer cynnyrch y cyfryngau, e.e. ffilm/teledu, podlediadau a gemau.
Mae’n gwrs galwedigaethol a byddwch yn cael eich cyflwyno i bynciau a sgiliau allweddol ac yn cael arweiniad i ddatblygu sgiliau ymarferol. Byddwch yn cael cyfle ymarferol i roi’r sgiliau hynny ar waith gyda phrosiect senario byd go iawn. Tuag at ddiwedd y flwyddyn byddwch yn dewis prosiect a fydd yn gweddu eich uchelgeisiau a bydd hyn yn ffurfio sail eich prif brosiect terfynol

Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth a sut i baratoi eu hunain yn effeithiol ar gyfer cyflogaeth yn y maes.
Mae pob uned astudiaeth meithrin sgiliau yn cael ei graddio ar sail pasio/methu. Ar ddiwedd pob blwyddyn byddwch yn astudio uned prif brosiect terfynol a fydd yn eich galluogi i arbenigo mewn maes ddiffiniedig o’ch dewis, a fydd yn ffurfio eich gradd gyffredinol derfynol. Byddwch yn cael eich asesu ar eich portffolio a’ch gwaith cwrs a thasgau ymarferol, hefyd wrth baratoi ar gyfer cynyrchiadau galwedigaethol go iawn.

4 TGAU graddau D/3 gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf), neu wedi cwblhau cymhwyster lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus.
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau
fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.

Peiriannydd Sain Byw, Peiriannydd Recordio, Cynhyrchydd Radio, Recordydd Sain Teledu neu Ffilm, Golygydd, Artist Foley, DJ, Cynhyrchydd Cerddoriaeth neu Reolwr Cerddoriaeth.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gwelwch y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListBarod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.