Lefel 1 Gosod Trydan a Phlymwaith

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01485
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos)
Adran
Adeiladu, Trydanol, Plymwaith
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr llawn amser sy’n dymuno dod yn drydanwyr neu’n blymwyr yn y diwydiant Gosod Trydan neu Blymwaith. Bydd y rhaglen yn cynnwys myfyrwyr yn mynychu sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth i ennill gwybodaeth greiddiol a sesiynau ymarferol yn ein gweithdai hefyd.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, eu gwybodaeth, eu profiad a'u sgiliau mewn Gwaith Trydan a Phlymwaith, a bydd yn cael ei gofrestru ar Ddiploma Lefel 1 City & Guilds mewn Astudiaethau Gwasanaethau Adeiladau (7201-01)

Mae unedau’n cynnwys -

- Strwythur y Diwydiant Adeiladu
- Arferion Gweithio Diogel Sylfaenol (Iechyd a Diogelwch)
- Paratoi Safleoedd
- Gosod Trydan a Gwifrau a Therfyniadau
- Draenio Tir
- Gwaith Pibellau Copr
- Gwaith Pibellau Plastig Pwysedd
- Gosod, Atgyweirio a Chynnal a Chadw Systemau Plymwaith

Bydd angen cwblhau ystod o asesiadau gan gynnwys -

- Asesiadau ymarferol yn y gweithdy
- Arholiadau ysgrifenedig
- Arholiadau amlddewis ar-lein
- Gwaith prosiect


Disgwylir i ddysgwyr hefyd gwblhau naill ai Sgiliau Hanfodol Cymru, TGAU Saesneg a Mathemateg a/neu Lythrennedd Digidol yn dibynnu ar eu graddau Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd.

Bydd dysgwyr hefyd yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen a chwblhau rhaglen tiwtor personol gyda nhw. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth ac mewn gweithdy.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau’r asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu nhw i gyflawni eu cymhwyster i gynorthwyo symud ymlaen mewn Addysg Bellach neu Ddysgu yn y Gwaith.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, ac mae’n rhaid i dri ohonynt fod yn Fathemateg, Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf), a Gwyddoniaeth.

Rhaid i ymgeiswyr gael tystiolaeth nad ydynt yn lliwddall (gellir darparu hyn drwy ganlyniadau prawf golwg lliw boddhaol).

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r Sgiliau Sylfaen neu Fynediad – rhaid eich bod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs. Gellir symud ymlaen i un o’r canlynol:

– Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi
– Hyfforddeiaeth neu raglen brentisiaeth
– Gwaith
-Rhaglen yn y gymunedd.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Noson Agored Recriwtio Staff – Ffordd y Bers
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Iâl
29/03/2023

Noson Agored Recriwtio Staff – Glannau Dyfrdwy
28/03/2023

17:00

Noson Agored Recriwtio Staff – Llaneurgain
23/03/2023

17:00

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost