main logo

Lefel 2 mewn Sgiliau Canolradd mewn Gwasanaethau Adeiladu - Plymwaith

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP81039
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs llawn amser 1 flwyddyn
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu
Dyddiad Dechrau
06 Sep 2023
Dyddiad Gorffen
21 Jun 2024

Rhestr Fer

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'n cynnig cyflwyniad eang i ddysgwyr i'r sectorau adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, ac yn eu datblygu. Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned graidd orfodol a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r sectorau adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd ac iechyd a diogelwch. Yn ogystal â'r unedau craidd gorfodol, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at ddysgu am ddau faes masnach, a Phlymwaith a Gwresogi fydd un ohonynt. Mae'r cymhwyster yn darparu dysgwyr gyda dealltwriaeth eang, drawsbynciol o'r sector, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu datblygiad eu hunain.

• Cyflwyniad i'r Amgylchedd Adeiledig
• Cyflwyniad i'r Crefftau yn y Sector Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
• Cyflwyniad i Gylch Bywyd yr Amgylchedd Adeiledig
• Cyflogadwyedd ym maes Adeiladu a Sector yr Amgylchedd Adeiledig
• Diogelu Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
• Cyflwyniad i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ym maes Adeiladu a Sector yr Amgylchedd Adeiledig.
• un prawf amlddewis wedi’i osod a’i farcio’n allanol
• un prosiect wedi’i osod yn allanol ac wedi’i farcio’n fewnol, sy’n cynnwys dau faes masnach.
• un drafodaeth dan arweiniad wedi’i gosod yn allanol ac wedi’i marcio’n fewnol.
• un prawf iechyd a diogelwch wedi’i osod yn allanol ac wedi’i farcio’n fewnol.
4 x TGAU gyda Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D/3 neu uwch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud eich gorau yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a bydd hynny’n gallu arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Mae’r cymhwyster yn darparu dysgwyr gyda digon o wybodaeth i symud ymlaen i brentisiaeth yn eu dewis o fasnach. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, efallai y bydd dysgwyr nad oes ganddynt brentisiaeth yn dymuno parhau ar y cwrs Dilyniant llawn amser.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer ynghlwm i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith? Cofrestrwch rŵan

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Cynaliadwyedd
13/11/2023

Gweminar Gwiriad Iechyd Seiberddiogelwch AM DDIM

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
30/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
23/11/2023

17:30

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?