
Bydd staff Coleg Cambria yn croesawu ymwelwyr i’r Coleg wythnos nesaf i’r Digwyddiadau Agored ar gyfer Cyrsiau Gradd.
Mae’r Digwyddiadau Agored yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr ddod i ymweld â Choleg Cambria, cael gwybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau lefel gradd sydd ar gael, cyfarfod y tiwtoriaid gwybodus, ac ymweld â’r cyfleusterau o’r radd flaenaf gan gynnwys y Ganolfan Technoleg Peirianneg newydd mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Abertawe.
Dywedodd Jackie Doodson, Rheolwraig AU:
“Yng Ngholeg Cambria, rydym ni’n cyd-weithio gyda rai o brifysgolion gorau Prydain i ddarparu cyrsiau lefel gradd, sydd wedi’u llunio gyda chyflogaeth dan sylw.
“Mae’r Digwyddiad Agored yn gyfle rhagorol i ddarpar ddysgwyr ymweld â Choleg Cambria a chyfarfod ein staff, gweld y cyfleusterau a chael gwybodaeth i’w helpu i ddod i’r penderfyniadau gorau iddyn nhw.”
Mae’r Digwyddiadau Agored ar gyfer Cyrsiau Gradd yn cael eu cynnal 7 Chwefror rhwng 4 a 6 pm yng Nglannau Dyfrdwy, a 8 Chwefror rhwng 4 a 6pm yn Iâl.
yn ôl