
Bu dysgwyr Lefel 2 a 3 Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai o safleoedd Coleg Cambria yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy yn cymryd rhan mewn 2 ymweliad preswyl 5 niwrnod i Wersyll yr Urdd Glan-llyn, Llanuwchllyn, Bala.
Wedi’u harwain gan Alan Iowry, darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – sydd hefyd yn Gydlynydd Gwobrau Dug Caeredin y coleg – a darlithydd Gwasanaethau mewn Lifrai, Gary Abnett, fe wnaethant fwynhau a phrofi cyfres o heriau mewn amodau tywydd garw.
“Aeth y dysgwyr i’r afael ag amrywiaeth o weithgareddau awyr agored gan gynnwys dringo creigiau, caiacio, canŵio, cerdded bryniau, cyfeiriannu, datrys problemau, saethyddiaeth, cerdded ceunentydd, ogofa a rhaffau uchel – fe gawson nhw lwyddiant mawr,” meddai Alan.
“Hefyd fe wnaeth grwpiau gymryd rhan mewn her canŵio i elusen a oedd yn ras 3.6 milltir ar hyd Llyn Tegid, ac fe gafodd grŵp Lefel 2 hyfforddiant ychwanegol mewn sgiliau alldeithiau i baratoi ar gyfer eu Gwobr Efydd Dug Caeredin.
“Er y tywydd stormus fe gawson ni amser anhygoel ac fe wnaethon nhw ddangos gwaith tîm gwych trwy gydol yr amser.”
Dywedodd Rona Griffiths, Rheolwr Profiadau’r Dysgwyr a Menter: “Rydyn ni wedi llwyddo i barhau i gynnig gweithgareddau awyr agored a chyfleoedd preswyl yn ddiogel, ac rydyn ni wrth ein boddau’n gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan.
“Mae Dug Caeredin yn enwedig yn darparu nifer o sgiliau newydd ac yn werthfawr iawn i’w haddysg awyr agored – dwi’n falch eu bod wedi cael amser gwerthfawr a hwyliog er gwaetha’r tywydd stormus.”
Y llynedd, cyflawnodd 203 o bobl ifanc Wobrau Dug Caeredin yng Ngholeg Cambria – 199 Efydd, dwy wobr Arian a dwy wobr Aur.
“Rydyn ni mor falch ohonyn nhw am weithio’n galed i ddatblygu ystod o sgiliau newydd gan gynnwys datrys problemau, darllen map, cymorth cyntaf a chynllunio llwybrau a phrydau,” meddai Rona.
“Byddai gwneud hyn unrhyw adeg yn gyflawniad anhygoel; ond mae llwyddo i gwblhau’r wobr Efydd yn ystod pandemig Covid-19 yn fwy arbennig fyth ac maent yn rhoi enw da i’r coleg.”
Mae’r holl ddysgwyr Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael sesiynau iaith Gymraeg wythnosol yn y coleg sy’n canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Cafodd y dysgwyr amrywiaeth o gyfleoedd i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau hyn ar eu hymweliad i Lan Llyn wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau amrywiol.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.
yn ôl