
Roedd pennaeth Distyllfa Wisgi Aber Falls, James Wright ymysg y siaradwyr gwadd yn y gynhadledd Bwyd a Lletygarwch yng Nglannau Dyfrdwy ddoe.
Roedd y fforwm yn cynnwys arddangosiadau, cyflwyniadau a rhwydweithio, yn ogystal â sgyrsiau am hylendid bwyd, prentisiaethau a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Roedd Mark Whitfield o Wurkplace Ltd, a Jennifer Kennedy, Prif Aelod Gweithrediaeth Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru, yn bresennol hefyd.
Roedd James Hicks, Rheolwr Datblygiadau Strategol (Cymru) Academi Sgiliau Genedlaethol Bwyd a Diod, yn arwain trafodaeth am y ‘Tasty Food Pledge’.
Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Cambria ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo, Gweithgynhyrchu Bwyd, Cyrsiau’r Tir a Gweithrediadau Hamdden, fu’n trefnu’r gynhadledd, sydd bellach wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers saith mlynedd, a dyma un o’r cynadleddau mwyaf a gorau eto.
Dywedodd Kate, “Roedd yn bleser dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr a sefydliadau lleol o’r diwydiant bwyd a diod ynghyd er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd brogarwch a rheoliadau llywodraethol.
“Mae busnesau’n mwynhau’r cyfle i rwydweithio a dysgu rhagor am y cyfleoedd ariannu a hyfforddi sydd ar gael iddynt, ac maent yn mwynhau’r rhaglen – hoffem ddiolch i bob un ohonynt am ddod, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld eto flwyddyn nesaf.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cambria.ac.uk
yn ôl