“Dwi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 7 mlynedd a dwi’n mwynhau’r gwersi, rydym fel teulu ac mae gen i ffrindiau da yno.
Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi’r hyder i mi fod yn fyfyrwraig llawn amser yn astudio Gwyddorau Cymdeithasol yma yng Ngholeg Cambria.”
“O Lundain yn wreiddiol, symudais i Wrecsam 10 mlynedd yn ôl a mynychu dosbarthiadau Cymraeg min nos. Mae gen i dair merch sydd, fel fy mhartner, yn siarad Cymraeg iaith gyntaf. Roeddwn i’n teimlo ei bod hi'n bwysig siarad Cymraeg gyda fy merched, fy mhartner a fy nheulu ac mae’n ffordd o gadw’r iaith yn fyw.”
“Dwi wirioneddol yn mwynhau dysgu Cymraeg a dwi’n gallu ymarfer a dysgu gyda fy mab adref. Dwi heb ddefnyddio fy Nghymraeg ers gadael yr ysgol, felly mae mynychu gwersi yn magu fy hyder.”
“Dwi’n dysgu Cymraeg i helpu fy mhlant, mae un yn 4 oed ac yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg, ac mae’r llall yn flwydd a hanner, dwi wir yn mwynhau dysgu’r iaith gyda fy mhlant.
“Bydd dysgu Cymraeg yn fy ngalluogi i i helpu’r plant gyda’u gwaith cartref yn y dyfodol.”