Mae ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (AU) yn eich paratoi i astudio ar gyfer gradd ac maent wedi cael eu cynllunio ar gyfer pobl a adawodd yr ysgol heb y cymwysterau arferol, fel Safon Uwch.
Mae’r cyrsiau yn cynnig llwybr blwyddyn o hyd i astudiaethau lefel gradd sy’n arwain at nifer o wahanol yrfaoedd. Mae’r cyrsiau ar gael i fyfyrwyr sydd â phrofiad helaeth o fywyd ers iddynt adael yr ysgol.
Cymorth gwych gyda cheisiadau UCAS
Cysylltiadau cryf gyda phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Glyndŵr a Chaer
Siaradwyr gwadd ac arbenigwyr o fyd diwydiant
Ymweliadau’n gysylltiedig â diwydiant
Profiad gwaith yn lleol ac yn genedlaethol
Mae ystod gyffrous o ddewisiadau gyrfa ar gael i chi symud ymlaen iddynt ar ôl gorffen y cwrs hwn:
• Addysgu
• Nyrsio
• Gwaith Cymdeithasol
• Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Gwaith Ieuenctid a Chymuned
• Dyniaethau
•Busnes
•Seicoleg Droseddol