
Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni fydd diwrnodau agored ar safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llaneurgain na Llysfasi.
Felly penderfynodd y coleg wahodd darpar fyfyrwyr i ddysgu rhagor o’u cartrefi.
Bydd yn dechrau ddydd Llun (9 Tachwedd) ac yn cael ei gynnal tan ddydd Gwener 20 Tachwedd. Bydd y rhai a fydd yn mynychu’r rhaglen ar-lein yn derbyn gwybodaeth a chyngor am yr ystod eang o bynciau Safon Uwch a BTEC sydd ar gael, yn ogystal â phrentisiaethau, graddau, cyrsiau rhan amser a darpariaeth addysg oedolion.
Hefyd bydd fideos croesawu gan y Pennaeth, Sue Price a Deon Mynediad ac AU (Addysg Uwch), Jackie Doodson. Bydd taith 3D o amgylch cyfleusterau anhygoel y sefydliad, gan gynnwys y Ganolfan Chweched Glannau Dyfrdwy gwerth £14.6 miliwn, a’r estyniad gwerth £20 miliwn sydd newydd ei ailwampio ar safle Iâl yn Wrecsam.
Mae galwadau ffôn yn ôl ar gael gan diwtoriaid a bydd y gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr wrth law i ateb unrhyw gwestiynau; gallwch hefyd wneud cais i ddechrau cwrs o fis Medi nesaf.
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb,” meddai Mrs Price.
“Mae ein diwrnodau agored ymysg yr uchafbwyntiau ar y calendr ac yn rhoi platfform i ni ddangos y gorau o Goleg Cambria, felly mae’n siomedig na fyddwn ni’n gallu gwneud hynny wyneb yn wyneb.
“Dydyn ni ddim eisiau i bobl golli cyfle felly rydyn ni wedi gosod cyfres ryngweithiol ar-lein o deithiau, sgyrsiau a bydd digon o wybodaeth ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â ni o 2021 ymlaen.”
Dywedodd hefyd: “Rydyn ni’n gobeithio cael ymateb da a byddwn yn parhau i gynnal darlithoedd a digwyddiadau ar-lein neu rai sydd â mesurau ymbellhau cymdeithasol yn eu lle, nes bod yr amser yn iawn – ein prif flaenoriaeth yw diogelwch ein myfyrwyr, staff a’n ymwelwyr.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru am ddim, ewch i www.cambria.ac.uk/virtualopenevent
Fel arall, anfonwch e-bost at studentservices@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007 gydag unrhyw gwestiynau.

