Mae Coleg Cambria yn blaenoriaethu llwyddiant myfyrwyr, ac addysgu a dysgu. Rydym yn dibynnu ar bobl ardderchog sy’n gallu bod yn allweddol wrth wireddu cynllun strategol y coleg.
Mae Coleg Cambria yn gosod llwyddiant myfyrwyr ac addysgu a dysgu fel blaenoriaeth. Rydym yn dibynnu ar bobl ardderchog sy'n gallu chwarae rôl allweddol wrth wireddu cynllun strategol y coleg.
Rydym yn cydnabod yr angen i recriwtio, datblygu a chadw staff rhagorol sy'n rhagori ar ddisgwyliadau’r myfyrwyr a chwsmeriaid. Rydym yn fuddsoddwr gwirioneddol mewn pobl ac felly'n buddsoddi'n helaeth mewn nifer eang o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion ac arferion cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu a lles ein staff. Cafodd hyn ei gydnabod pan enillon ni statws Aur am ein Safon Iechyd Gorfforaethol. Mae ein ‘Hymddygiadau’ yn diffinio'r agweddau a'r safonau y disgwyliwn gan bawb yng Ngholeg Cambria. Maent yn cael eu defnyddio a gallwch eu gweld ledled y coleg.
Mae Coleg Cambria yn lle ysbrydoledig i weithio ynddo. Gyda chymaint o gyfleoedd ar gyfer datblygu a chael buddion, rydym yn gobeithio y byddwch yn ystyried Coleg Cambria fel eich dewis chi o gyflogwr
Gallwch gyflwyno cais yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.
Os dymunwch gwblhau cais i Goleg Cambria gan ddefnyddio fformat gwahanol i ar-lein mae croeso i chi galw ni ar 01978267733 i gael rhagor o gyngor neu gefnogaeth.
Eisiau gwybod sut beth yn union yw gweithio yng Ngholeg Cambria? Darllenwch straeon ein staff.
"Mae gweithio yng Ngholeg Cambria yn werth chweil ac yn braf."