Home > Canolfan Brifysgol Cymorth i Fyfyrwyr
Canolfan Brifysgol - Cymorth i Fyfyrwyr
Gwasanaethau Myfyrwyr
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cynhwysiant
Y Llyfrgell a Sgiliau Astudio Academaidd
Iechyd Meddwl a Llesiant

Fel Canolfan Brifysgol ymroddedig i ddarparu profiad addysgol cynhwysfawr, yn Cambria rydym yn deall bod myfyrwyr yn wynebu heriau unigryw yn ystod eu taith academaidd. Dyma pam rydym wedi ymrwymo i gynnig ystod o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr ffynnu.
Mae ein Timau Gwasanaethau Myfyrwyr wedi’u lleoli ar bob un o’n safleoedd, ac maen nhw yma i ddarparu cymorth ac arweiniad ar faterion personol, ariannol, ac academaidd, gan gynnwys gwybodaeth a chyngor ar gyrsiau a chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo chi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni, er mwyn i chi gyflawni eich nodau academaidd a llwyddo mewn bywyd.
Cymerwch gip isod ar rai o’r ffyrdd gallai’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu chi.
Gallwch chi gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr wrth ffonio 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at studentservices@cambria.ac.uk.
Rydym yn cydnabod y gall iechyd meddwl a llesiant gael effaith sylweddol ar brofiad myfyrwyr. Mae’r tîm yng Nghanolfan Brifysgol Cambria yn angerddol am ddarparu’r cymorth a’r adnoddau gorau posib i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl da.
Nid oes unrhyw feini prawf i’w fodloni, gallai myfyrwyr gyfeirio eu hunain ar gyfer Hyfforddiant Gwytnwch, Cwnsela, cymorth Lles ar y Hwb Myfyrwyr, siarad â’u Tiwtor Cwrs, galw heibio Gwasanaethau Myfyrwyr neu anfon e-bost at studentservices@cambria.ac.uk.
Darganfyddwch ragor am Gymorth Iechyd Meddwl yma.
Gall ein Cynghorwyr Gyrfa a’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr gynorthwyo myfyrwyr gyda chwestiynau am eu camau nesaf, neu os ydynt yn ansicr am eu cwrs presennol.
Wrth ddefnyddio gwybodaeth a thueddiadau diweddar y farchnad lafur, gallant helpu myfyrwyr i ymchwilio gyrfaoedd ym mhob sector gwaith.
Ar ben hynny, mae gennym Gydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth, sy’n gallu cynnig arweiniad a chymorth ar hunan gyflogaeth a dechrau busnes trwy weithdai, siaradwyr gwadd a chlybiau menter.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau neu ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at careers@cambria.ac.uk.
Yma yng Ngholeg Cambria mae gennym ni gysylltiadau da, gyda chludiant ar gael o amrywiaeth eang o leoliadau ar hyd Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae rhwydwaith y Coleg am ddim i’w ddefnyddio, cyn belled â’ch bod yn byw 3 milltir i ffwrdd o’r safle. Am ragor o wybodaeth ac argaeledd, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr.
Am unrhyw gymorth, cyngor neu arweiniad ynghylch eich cludiant i’r Coleg, anfonwch e-bost at transport@cambria.ac.uk.
Mae Canolfan Brifysgol Cambria wedi ymrwymo i ddiogelwch a llesiant myfyrwyr ac mae’n darparu:
- Tîm diogelu cefnogol ar bob safle
- Dull gwrth-fwlio clir
- Amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr drafod pryderon neu faterion yn ymwneud â safbwyntiau eithafol, terfysgaeth neu beryglon radicaleiddio
- Hyfforddiant a gwybodaeth Diogelu a Prevent i bawb.
Cliciwch isod i weld ein polisiau Diogelu a Prevent:
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu os rydych chi’n pryderu am unrhyw un arall ewch i’r Hwb Myfyrwyr.
Gallai myfyrwyr gyrchu cymorth ariannol gan gynnwys:
- Cludiant am ddim sydd ar gael o ystod eang o leoliadau ar draws tair sir
- Brecwast am ddim i’r holl fyfyrwyr
- Cyngor, gwybodaeth ac arweiniad gan staff sy’n hawdd mynd atynt ar bob safle.
Cyllid Myfyrwyr
Fel myfyriwr Addysg Uwch, gallwch chi gyrchu amrywiaeth o gymorth ariannol.
Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a Chyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnig benthyciadau (y byddwch yn eu had-dalu) a grantiau (nad ydych chi’n eu had-dalu) i unrhyw un sy’n astudio cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Cambria.
Bydd eich cymhwysedd yn dibynnu ar y math o gwrs, ble rydych chi’n byw ac incwm y cartref.
Gall Coleg Cambria gynnig taliad bwrsariaeth o £1000 i chi os rydych chi’n symud ymlaen o Goleg Cambria (e.e. lefel 3 a Mynediad i AU) i un o’r cyrsiau canlynol:
FdA mewn Astudiaethau Plentyndod
Caiff y fwrsariaeth ei thalu mewn dau daliad o £500:
- blwyddyn 1, ar ddiwedd Semester 2
- blwyddyn 2, ar ddiwedd Semester 2.
Er mwyn cael y fwrsariaeth, mae’n rhaid i chi gadw at yr amodau canlynol:
- Bod â chadarnhad gan y Brifysgol bod ffioedd y cwrs wedi’u talu hyd yma
- Mae gennych chi ganran presenoldeb o dros 90%
- Rydych chi wedi cwblhau’r holl waith sydd angen ei gwblhau (wedi’i gadarnhau gan yr Arweinydd Rhaglen).
I Ddysgwyr sy’n Byw yng Nghymru
Ffioedd Dysgu
Gallwch chi gael hyd at £9,250 y flwyddyn, yn dibynnu ar faint mae eich cwrs yn ei gostio. Nid yw’r swm rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Rydym yn talu’r benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu goleg. Mae’n rhaid i chi ei dalu yn ol, gan gynnwys llog ar ol i chi orffen neu adael eich cwrs. Peidiwch â phoeni, ar hyn o bryd nid oes rhaid i chi dalu unrhyw beth yn ol tan i chi fod mewn cyflogaeth ac ennill dros y trothwy ad-dalu o £524 yr wythnos, neu £2,274 y mis.
Cymorth gyda Chostau Byw
Gallech chi hefyd gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’ch costau byw. Mae faint rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref a ble rydych chi’n byw ac yn astudio.
Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o faint y gallech chi ei gael yn seiliedig ar incwm eich cartref ar gyfer 2023/24:
Incwm Aelwydydd | Byw Gyda’ch Rhieni | |
---|---|---|
Benthyciad | Grant | |
£18,370 neu lai | £3,065 | £6,885 |
£25,000 | £4,020 | £5,930 |
£35,000 | £5,462 | £4,488 |
£45,000 | £6,903 | £3,047 |
£59,200 neu ragor | £8,950 | £1,000 |
Cyfanswm | £9,950 |
Incwm Aelwydydd | Byw i Ffwrdd o Gartref eich Rhieni | |
---|---|---|
Benthyciad | Grant | |
£18,370 neu lai | £3,620
| £8,100 |
£25,000 | £4,773 | £6,947 |
£35,000 | £6,512 | £5,208 |
£45,000 | £8,251 | £3,469 |
£59,200 neu ragor | £10,720 | £1,000 |
Cyfanswm | £11,720 |
Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i weld manylion llawn yr holl gymorth ariannol a sut a phryd i wneud cais.
Dysgwyr sy’n Byw y Tu Allan i Gymru
Gall myfyrwyr sy’n byw y tu allan i Gymru ddod o hyd i wybodaeth am gyllid a phrosesau ymgeisio trwy’r dolenni canlynol:
Fideos Defnyddiol

Yng Nghanolfan Brifysgol Cambria, rydym yn deall pwysigrwydd gweithio tuag at wneud hwn y lle mwyaf cynhwysol, cyfartal a chefnogol i bawb. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cymuned amrywiol o fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid i sicrhau bod Coleg Cambria yn gynhwysol i ni gyd. Mae ein Cydlynydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gael i gefnogi staff a dysgwyr gydag unrhyw beth i sicrhau bod ganddynt bopeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu yma.
Ni waeth pwy ydych chi a pha nodweddion sydd gennych chi, rydych yn haeddu cael eich trin â pharch, cael cyfleoedd teg ac wedi’u teilwra a chael eich dathlu am fod yn chi. Ni waeth beth yw eich hil, crefydd, hunaniaeth rhywedd, oed, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, statws priodasol, yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth, rydych chi’n aelod cyfartal, gwerthfawr o’n cymuned.
Mynediad
Rydym yn cydnabod y gall fod angen addasiadau ychwanegol i fynediad i bobl ag anableddau corfforol. Bydd ein Tîm Cynhwysiant yn gweithio gyda chi i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu chi dros e-bost neu ffôn.
Mae pob croeso i chi gysylltu â ni drwy equalityanddiversity@cambria.
Yma yng Nghanolfan Brifysgol Cambria, rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb yn weithredol ac yn dathlu amrywiaeth.
Gyda’n dull cynhwysol a’r cymorth a’r addasiadau sydd ar gael, rydym yn gallu bodloni ystod eang o anghenion.
Mae cymorth cynhwysiant ar gael ar draws pob un o’n pum safle. Bydd ein dull yn cael ei deilwra i chi a’ch anghenion unigol.
Gallwch siarad â ni cyn i’ch cwrs ddechrau neu unrhyw adeg yn ystod eich cwrs astudio. Un ffordd y gallwch siarad â ni yw trwy anfon e-bost at hesupport@cambria.ac.uk.
Mae cymorth cynhwysiant ar gael ar draws pob un o’n pum safle. Bydd ein dull yn cael ei deilwra i chi a’ch anghenion unigol. Gallwch rannu unrhyw un o’ch anghenion cymorth gyda ni cyn i’ch cwrs ddechrau neu ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs astudio.
Os oes gennych chi anghenion dysgu ychwanegol, gall ein tiwtoriaid arbenigol gefnogi eich dysgu annibynnol.
Gallant eich helpu i ddatblygu sgiliau:
- Defnyddio technolegau cynorthwyol
- Strategaethau dysgu effeithiol
- Rheoli amser
- Techneg arholiadau a gorbryder
- Sgiliau trefnu
- A llawer rhagor
Os ydych chi’n meddwl y byddech yn cael budd o wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, gall ein tîm ni eich cynorthwyo gyda hyn. I wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl mae’n rhaid bod gennych ddiagnosis meddygol o anabledd arnoch, neu ddiagnosis o Anawsterau Dysgu Penodol (SpLD).
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi Anawsterau Dysgu Penodol ond heb ddiagnosis, gall ein tîm eich helpu gyda hyn.
Mae meddalwedd darllen ac ysgrifennu ar gael i chi pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, ar ba bynnag gwrs y mae ei angen arnoch.
Yn dilyn cyfarfod ac asesiad cychwynnol, gallwn roi adnoddau i chi i gefnogi eich dysgu, megis benthyca:
- Canllawiau a hyfforddiant am ddefnyddio meddalwedd cynorthwyol
- Gliniaduron/Chromebooks o’r llyfrgell
- Dewisiadau allweddell a llygoden eraill os oes angen
- Dyfeisiau chwyddo cludadwy.
Fel myfyriwr Addysg Uwch (AU) gydag anabledd, gallech fod yn gymwys am gymorth trwy Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
Mae Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn helpu tuag at gostau a fydd gennych o bosib wrth astudio ar eich cwrs o ganlyniad uniongyrchol i’ch anhawster. Gallwch ddarganfod rhagor am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a sut i wneud cais drwy wylio’r fideo canlynol ac ymweld â yourdsa.com.
Fideo gan gwmni allanol ‘Texthelp’.
Gwnewch gais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl cyn gynted ag y gallwch chi i sicrhau bod cymorth ar gael i chi cyn gynted â phosib.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, ewch i’r dudalen ‘Cysylltwch â ni’ a gadewch eich manylion, neu anfonwch e-bost at hesupport@cambria.ac.uk.
Os ydych chi’n ddysgwyr sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol, anghenion corfforol neu feddygol, gallwch wneud cais am Drefniadau Mynediad i Arholiadau.
Mae’r trefniadau hyn yn rhoi mynediad cyfartal i chi i’r arholiadau heb newid gofynion yr asesiad.
Rhai enghreifftiau o drefniadau mynediad i arholiadau yw:
- Amser ychwanegol
Defnyddio darllenydd
Defnyddio ysgrifennydd
Defnyddio prosesydd geiriau
Troshaenau lliw neu bapur
Ystafell lai neu ar wahân.
Os ydych chi wedi cael trefniadau mynediad i arholiadau yn y gorffennol, rhannwch y wybodaeth hon gyda ni yn ystod cofrestru.
Bydd angen i chi roi tystiolaeth o’ch anhawster dysgu neu anghenion meddygol i’ch darlithydd ADY arbenigol.
Byddant yn cyfarfod â chi yn ystod eich tymor cyntaf i roi’r trefniadau hyn ar waith, yn unol â chanllawiau’r partneriaid prifysgol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ewch i’r dudalen Cysylltwch â ni i roi eich manylion cyswllt, neu anfonwch e-bost at hesupport@cambria.ac.uk..
Cwestiynau Cyffredin
Mae rhoi gwybod i ni am eich anghenion unigol yn gynnar yn golygu y gallwn roi cymorth ar waith ar unwaith. Gallwch ddatgelu eich anghenion ar unrhyw gam o’ch taith ddysgu.
Yn Cambria bydd eich anghenion cymorth yn cael eu bodloni gan dîm o bobl o’r enw’r Tîm Cynhwysiant. Bydd eich anghenion cymorth personol yn cael eu nodi a byddwch yn cael cymorth yn y dosbarth neu bydd yn cael ei ddarparu fel sesiwn ychwanegol y byddwch yn mynd iddi gyda Darlithydd Arbenigol neu Fentor.
Gallwch ddefnyddio’r feddalwedd hon i’ch cynorthwyo i ddarllen testun ysgrifenedig, neu i deipio wrth i chi siarad. Mae wedi’i chysylltu â’ch cyfrif e-bost y coleg a gallwch ei ddefnyddio gartref.
Dylech, os hoffech chi i ni roi cymorth a/neu drefniadau mynediad i arholiadau ar waith yng Ngholeg Cambria.
Byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth ymlaen os ydych chi’n rhoi caniatâd neu’n gofyn i ni wneud hynny. Er enghraifft caniatâd am drefniadau mynediad i arholiadau. Fodd bynnag, efallai ei fod yn syniad da rhoi gwybod am eich anghenion i sefydliadau eraill fel y gallai’r cymorth perthnasol gael ei roi ar waith.
Mae Darlithwyr Arbenigol yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu annibyniaeth dysgu. Bydd Darlithydd Arbenigol yn cyflwyno eu hunain i’ch grŵp yn ystod y cyfnod ymsefydlu ar gyfer pob cwrs. Fel arfer bydd hyn yn digwydd yn ystod eich wythnos gyntaf yn Cambria. Ond, os oes angen i chi gysylltu â nhw cyn i chi gofrestru, mae pob croeso i chi anfon e-bost at hesupport@cambria.ac.uk..

Mae astudio gyda Chanolfan Brifysgol Cambria yn eich galluogi i gyrchu nifer o lyfrgelloedd llawn adnoddau ar draws safleoedd Cambria.
Mae’r llyfrgelloedd yn lleoedd diogel, cynhwysol a chroesawgar sydd wedi’u dylunio i gynorthwyo eich anghenion dysgu.
Mae gennym fannau astudio tawel ar gyfer gwaith grŵp neu unigol, gallech gyrchu cyfrifiaduron a Chromebooks ar y safle neu gallech chi eu benthyg a’u defnyddio gartref.
Mae cyfleusterau argraffu a chymorth i chi gysylltu â’ch teclyn eich hun i Wifi y coleg ynghyd â chymorth i gynyddu eich sgiliau digidol wrth astudio gyda ni.
Mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu chi dros e-bost neu ar y ffôn.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r tîm ar library@cambria.ac.uk am unrhyw ymholiadau am y llyfrgell.
Bydd gennych chi gyfleoedd i ofyn am gyngor gan weithwyr proffesiynol yn ogystal â thîm sgiliau academaidd cymwys i arwain eich taith dysgu.
Darperir cymorth academaidd 1:1 grŵp ac wedi’i deilwra ar ystod eang o bynciau academaidd allweddol gan gynnwys gwerthuso beirniadol, ymchwil effeithiol a chyfeirnodi gyda llwybrau syml a hygyrch i hunangyfeirio ar gyfer cymorth ychwanegol lle bo angen.
Yn ogystal ag arweiniad personol, byddwch chi’n gallu cyrchu llenyddiaeth ymchwil 24/7 o ansawdd uchel a adolygir gan gymheiriaid sy’n arwain y sector, ystod o lwyfannau e-lyfrau er mwyn i chi allu cyrchu eich darllen hanfodol ac ehangach yn hyblyg ynghyd â chyfleoedd i ofyn am deitlau llyfrau yr hoffech chi eu hychwanegu at gatalog y llyfrgell

Rydym yn gwybod y gallai iechyd meddwl a llesiant gael effaith sylweddol ar eich profiad addysg uwch.
Mae ein Tîm Iechyd Meddwl a Llesiant wedi ymrwymo i’ch darparu chi gyda’r cymorth a’r adnoddau gorau i hyrwyddo eich llesiant ac iechyd meddwl da.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cymorth gan staff llesiant ymroddedig sy’n ystyriol o drawma ar hyd safleoedd y coleg.
- Pontio wedi’i deilwra
- Hybiau Llesiant a hybiau gwib ar ein safleoedd sy’n darparu lleoliadau diogel, distaw i chi ymlacio ynddynt a chymryd rhan mewn gweithgareddau meddwlgarwch
- Cymorth gan ein Hyfforddwyr Gwytnwch a chymhorthwyr Llesiant i helpu i adnabod a chael gwared ar rwystrau i ddysgu
- Cwnsela wyneb yn wyneb
- Gweithgareddau iechyd meddwl a llesiant yn ystod y flwyddyn
- Sesiynau a chymorth 1:1 iechyd meddwl a llesiant, wedi’u teilwra’n benodol i fodloni eich anghenion a’ch helpu chi i lwyddo
- Cymorth gyda mynd i’r afael â gorbryder ynghylch cymdeithasu neu gyrchu eich cwrs
- Gwaith aml-asiantaeth gan gynnwys cyfeiriadau a chyfeirio cymdeithasol.
Mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu chi dros e-bost neu ar y ffôn.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni ar wellbeing@cambria.ac.uk ar gyfer unrhyw ymholiadau.