
Etholwyd Alex Rollason, prentis peirianneg o Goleg Cambria yn Is-lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (NUS) yng Nghymru ar gyfer 18/19 yn eu cynhadledd flynyddol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.
Teithiodd arweinwyr Llais Myfyrwyr Coleg Cambria i Gaerdydd i Gynhadledd Flynyddol NUS Cymru 2018. Aeth un arweinydd myfyrwyr o bob safle i gefnogi a chymryd rhan yn yr etholiadau a gynhaliwyd.
Alex oedd prif gyfranogwr Coleg Cambria yn y digwyddiad gan ei fod wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Genedlaethol Prentisiaid am y tair blynedd ddiwethaf, ac mae wedi dod yn is-lywydd NUS Cymru’r wythnos hon.
Yn brentis peirianneg yng nghwmni fferyllol Wockhardt UK, Alex yw’r prentis cyntaf i fod yn swyddog sabothol unrhyw le yn yr NUS.
Yn ei faniffesto, addewid Alex oedd:
- gwarchod ac ychwanegu at hawliau myfyrwyr fel gweithwyr;
- adeiladu undebau myfyrwyr cadarn a gweithredol yng ngholegau Cymru;
- cynnal ymgyrch cenedlaethol am drafnidiaeth am ddim i bob myfyriwr;
- cynrychioli Cymru a’n myfyrwyr.
Dywedodd Alex Rollason ar ôl ei ethol:
“Mae’n fraint gen i fod y swyddog llawn amser cyntaf yn NUS. Fel Is-lywydd NUS Cymru, rydw i’n bwriadu defnyddio fy mhrofiad fel prentis a rhiant i ymgyrchu am newidiadau cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr difreintiedig o bob cwr o’n gwlad.
“Mae newidiadau mawr mewn cymdeithas, ac mae myfyrwyr yn derbyn y gwaethaf o’r economi gig. Rydw i’n mynd i ddefnyddio fy amser fel Is-lywydd NUS Cymru i warchod hawliau myfyrwyr a’u cefnogi i leisio eu barn.”
yn ôl