Mae gennych chi botensial, ond efallai y bydd angen ei ddatgloi neu ei ddadflocio. Bydd y Rhaglen Potensial Uwch newydd yn eich cefnogi wrth i chi nodi, archwilio, ysgogi a meithrin eich potensial uwch unigol. Mae'n rhaglen a fydd yn helpu i adeiladu'r meddylfryd ar gyfer llwyddiant ac yn rhoi hyder i chi chwilio am eich diddordebau, arddangos eich doniau, a gadael i'ch potensial ddisgleirio!
Yn Cambria, byddwn yn eich ysbrydoli ar eich taith potensial uwch. Bydd staff yn tanio'ch chwilfrydedd ac yn eich annog i ddatblygu'ch sgiliau o'r medrus i'r rhagorol. Yn ogystal â hyn, bydd Anogwr Perfformiad yn eich helpu i ddarganfod grym 'meddwl hyderus' trwy feithrin meddylfryd ar gyfer llwyddiant. Bydd hyn yn cynnwys meistroli a deall pwysigrwydd y canlynol:
Ymrwymiad
Ceisio a defnyddio cefnogaeth gymdeithasol
Technegau ffocws a thynnu sylw
Datrys problemau
Sut i gyflawni lefel uchel o ansawdd yn y sgil o’ch dewis
Gwerthuso perfformiad realistig
Cynllunio a threfnu
Gosod nodau a hunan-wobrwyo
Mae'r rhaglen hon yn eich galluogi i estyn eich profiad coleg y tu hwnt i'r academaidd, ac i ystod eang o feysydd gwych eraill. Ar draws ein pum safle, mae gennych gyfle anhygoel i ymgysylltu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, gyda chyfleoedd dysgu y tu hwnt i waith cwrs i'ch helpu chi i ddatblygu potensial uwch cydweithredol ac unigol.
Felly beth all Coleg Cambria ei ddarparu?
Yr allwedd i'n rhaglen Bosibl (RBU) / Rhaglen Potensial Uwch (HPP) yw eich annog i gredu yn eich potensial unigryw eich hun. Er efallai nad ydych chi'n gwybod beth yw hynny eto, mae o gennych chi, a gallwch ddarganfod a chynyddu eich potensial uwch yn Cambria. Isod mae rhai cyfleoedd yr ydym yn ceisio eu darparu i chi gael eich ysbrydoli, i chi archwilio a'ch herio:
Staff i gefnogi a meithrin eich potensial uwch
Gweithgareddau ar gyfer datrys problemau a dysgu cydweithredol
Adnoddau ychwanegol ar gyfer dysgu hunan-arweiniol
Cyfleoedd mentora
Rolau fel tiwtoriaid cymheiriaid / cymorthyddion addysgu.
Heriau creadigol ac arbrofol
Ymweliadau / sgyrsiau arbenigol / sesiynau holi ac ateb (yn y coleg neu’n rhithwir)
Teithiau (yn y coleg neu’n rhithwir) i leoedd / ardaloedd / profiadau o ddiddordeb
Dosbarthiadau meistr (yn y coleg neu’n rhithwir)