-
Profiadau i Fyfyrwyr a Chyfoethogi
Chwaraeon
Mae nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon – o sesiynau blasu “unwaith ac am byth” i ddechreuwyr, hyd at ymrwymiadau “tymor hwy” gan gynrychioli’r Coleg mewn un o’n timau chwaraeon niferus.
Llais y Myfyrwyr
Cymerwch ran a gwnewch wahaniaeth.
Llais Myfyrwyr yw sut mae myfyrwyr yng Ngholeg Cambria yn cael cyfle i gael dweud eu dweud a chymryd rhan i helpu llunio eu coleg.
Mae proses dryloyw yn golygu bod dau Lywydd Myfyrwyr a Llywodraethwr yn cael eu hethol bob blwyddyn gan y myfyrwyr i gyd. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr a’u barn yn cael eu cynnwys mewn agweddau ar fywyd y coleg – o’r clybiau a’r cymdeithasau, i wneud penderfyniadau ar y Corff Llywodraethu.
Mae Cynrychiolwyr Dosbarth a Chynrychiolwyr Campws yn llywio gwaith y Llywyddion, gan sicrhau bod gan bob myfyriwr ffordd i fynegi eu barn a chymryd rhan!
Mae pob dosbarth yn ethol Cynrychiolydd ym mis Medi. Felly, rhowch wybod i’ch tiwtor os oes diddordeb gennych chi mewn sefyll ar gyfer bod yn gynrychiolydd dosbarth. Mae Cynrychiolwyr Dosbarth etholedig yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ac maent yn mynd i gyfarfodydd Adolygu ar gyfer y Cynrychiolwyr i drafod materion myfyrwyr y coleg. Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth eich Cynrychiolydd Dosbarth os ydych chi eisiau newid unrhyw beth.
Beth am fod yn Llywydd neu’n Is-lywydd y Myfyrwyr a gwella eich CV a’ch profiadau? Darllen rhagor
Beth yw Llais Myfyrwyr?

Sut gaiff eich llais ei glywed?
Mae pob dosbarth yn ethol Cynrychiolydd ym mis Medi. Felly, rhowch wybod i’ch tiwtor os oes diddordeb gennych chi mewn sefyll ar gyfer bod yn gynrychiolydd dosbarth. Mae Cynrychiolwyr Dosbarth etholedig yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ac maent yn mynd i gyfarfodydd Adolygu ar gyfer y Cynrychiolwyr i drafod materion myfyrwyr y coleg. Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth eich Cynrychiolydd Dosbarth os ydych chi eisiau newid unrhyw beth.
Gallwch hyd yn oed sefyll etholiad i fod yn Llywydd neu Is-lywydd!
Beth am fod yn Llywydd neu’n Is-lywydd y Myfyrwyr a gwella eich CV a’ch profiadau? Darllen rhagor
Cerddoriaeth a Drama
O ddechreuwyr i’r cerddorion neu berfformwyr profiadol. Theatr broffesiynol gydag offer llawn, stiwdios recordio, drama a dawns ar gael i bawb.
Cynllun Dug Caeredin
Mae’r Cynllun yn rhoi cyfle i bobl ifanc 14-24 oed, feithrin sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith, cyflawni eu potensial a chael dyfodol mwy disglair. Dyma raglen o weithgareddau sy’n arwain at achrediad cyfarwydd i bawb. Ewch i www.dofe.orgi gael rhagor o wybodaeth.
Gwaith Cymunedol a Gwirfoddoli
Trwy weithio gyda sefydliadau lleol, gall dysgwyr helpu i wneud gwahaniaeth go iawn mewn cymunedau. Mae gan Goleg Cambria gysylltiadau cryf â llawer o grwpiau cymunedol. Maent yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddysgwyr wirfoddoli ac maent yn gallu rhoi profiadau bywyd gwerthfawr i ddysgwyr sy’n newid eu bywydau yn aml.
Clybiau a Chymdeithasau
Cymerwch ran mewn nifer o glybiau a chymdeithasau’r coleg sy’n eich galluogi i gyfarfod myfyrwyr eraill gyda’r un diddordebau â chi.
Mae grwpiau’n cael eu ffurfio’n barhaus, dan arweiniad myfyrwyr yn bennaf.
Mae grwpiau’n cael eu ffurfio’n barhaus, dan arweiniad myfyrwyr yn bennaf.
- Grwpiau dadlau
- Grwpiau Otaku
- Clybiau Cymraeg
- Grwpiau Gofalwyr Ifanc
- Grwpiau Dawns a Drama
- Grwpiau Chwaraeon
- Cymdeithas Pennant
- Band
- Côr
- Gweithdai Mathemateg
- Grwpiau Cristnogol
- A llawer rhagor….
Grŵp Amrywiaeth y Myfyrwyr
Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud Yng Ngholeg Cambria. Ymunwch â’r grŵp hwn os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn hyrwyddo’r gwerthoedd yma a dathlu amrywiaeth.
Lles
Beth am gael budd o gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau sy’n helpu gyda’ch lles personol chi eich hun. Bydd y coleg yn ceisio cefnogi gweithgareddau fel hyn drwy weithio gyda dysgwyr i ddatblygu mannau ac adnoddau addas.
Mentergarwch
Mae Coleg Cambria yn sefydliad gwirioneddol fentrus ac rydyn ni’n ymdrechu i greu nifer o gyfleoedd llawn hwyl ac ymarferol i chi gael gwella eich sgiliau entrepreneuraidd, creu rhwydweithiau a chysylltiadau newydd a gwella eich gwybodaeth a’ch profiad busnes yn sefydliad addysg newyddaf Cymru.
Link to Enterprise area on the Cambria Website Darllen rhagor
Link to Enterprise area on the Cambria Website Darllen rhagor
Clybiau Bod yn fos arnoch chi eich hun a ‘Career Coach’
pythefnos ar bob un o’n safleoedd.
Dydd Llun: CAD Iâl, 12.15 – 13.15
Dydd Mawrth: Llyfrgell Llysfasi 12.00 - 13.00
Dydd Mercher: CAD Ffordd y Bers 12.15 – 13.15
Dydd Iau: Parth Dysgu Glannau Dyfrdwy 12.00 – 13.00
Dydd Gwener: Parth Dysgu Llaneurgain 12.00 – 13.00
E-bost at enterprise@cambria.ac.uk i gael apwyntiad sy’n gyfleus i chi Darllen rhagor

Caplaniaeth
Myfyrwyr Gwirfoddolwyr a Grwpiau’r Gaplaniaeth
Mae'r Gaplaniaeth bob amser yn chwilio am fyfyrwyr sy'n dymuno gwirfoddoli a helpu gyda digwyddiadau, boed hynny i ddathlu gŵyl grefyddol, codi arian at elusen, neu i sefydlu grŵp yn gysylltiedig â ffydd, cred a gwerthoedd.
Dyma’r grwpiau sydd gennym ni ar hyn o bryd.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Gydlynydd y Gaplaniaeth: ruth.holden@cambria.ac.uk
Yr Undeb Gristnogol
Lle i wneud ffrindiau a dysgu rhagor am Gristnogaeth gyda’n gilydd.

- Grŵp trafod Deialog Rhyng-ffydd
- Dod â phobl o wahanol ffydd at ei gilydd
- Dysgu am ffydd ein gilydd e.e. trafod pynciau fel bwyd a diod, perthnaseddau, ysgrythurau sanctaidd a phroffwydi, ac ati.
- Dathlu’r hyn sydd gennym ni yn gyffredin, er enghraifft, Y RHEOL AUR a chodi arian at elusen y coleg.
Ffoniwch
0300 30 30 007Mae'r llinellau ar agor 8.30am-4pm
o ddydd Llun i ddydd Gwener